Beth yw'r rhwystrau i fewnfudwyr sydd eisiau dysgu Cymraeg?
- Cyhoeddwyd
Mae siaradwyr Cymraeg yn gallu bod yn rhy barod i droi i'r Saesneg wrth siarad gyda dysgwyr o dramor - dyna un o gasgliadau astudiaeth o fewnfudwyr i Gymru o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig gan fyfyriwr o Hwngari.
Yn ôl astudiaeth Balint Brunner mae hyn yn cyfrannu at ddiffyg cyfle i fewnfudwyr ddysgu a defnyddio'r Gymraeg.
Pethau eraill sy'n cyfyngu ar y cyfleoedd ydy'r syniad fod y gymuned Gymraeg yn gaeedig a'r ffaith nad yw sefydliadau a busnesau yn gweld y defnydd o'r iaith fel rhywbeth 'normal', yn ôl y dysgwyr oedd yn rhan o'r ymchwil.
Dewisodd Mr Brunner edrych ar brofiadau pobl sydd wedi dod i fyw i gymunedau Cymraeg o'r tu allan i'r DU ar gyfer ei gwrs gradd mewn cyfathrebu strategol ym Mhrifysgol Bournemouth.
Roedd y bobl a holodd wedi symud i ardaloedd Cymraeg yng Ngwynedd, Môn, Ceredigion a Chaerfyrddin a naill ai wedi dysgu'r iaith neu wrthi'n ei dysgu.
Gweithio i asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus yn Llundain mae Mr Brunner ar hyn o bryd ond dysgodd fwy am Gymru a'r Gymraeg pan ddaeth i fyw i Gaer a gweithio yn ffatri Airbus yn Sir y Fflint fel swyddog cyfathrebu.
Sylwodd ar arwyddion ffyrdd ac enwau Cymraeg a mwynhau dod i adnabod cymunedau Cymraeg gogledd Cymru'n well yn ystod ei amser yno.
"Fel newydd-ddyfodiad fy hun, roeddwn i'n teimlo bod yna leisiau heb eu clywed gan bobl oedd yn mudo i ardaloedd Cymraeg sy'n ymdrechu i ddod yn rhan o'r gymuned ac sydd eisiau dysgu'r iaith. Ond weithiau mae yna stereoteipiau maen nhw'n ei wynebu," meddai.
"Felly roeddwn i am archwilio'r rhain yn fwy manwl gyda phobl oedd yn y sefyllfaoedd yma."
Prif gasgliadau ymchwil Balint Brunner:
Mae'r Gymraeg yn cael ei gweld fel yr iaith 'arall', hyd yn oed mewn cymuned Gymraeg, ac mae newydd-ddyfodiad yn defnyddio Saesneg fel yr iaith default oherwydd ofn.
Roedd yr ymatebwyr yn dweud bod ganddyn nhw ofn ymateb negyddol pe baen nhw'n ceisio siarad Cymraeg gyda rhywun oedd ddim yn siarad yr iaith.
"Mewn amryw o fusnesau a sefydliadau sector cyhoeddus maen nhw'n teimlo nad ydy'r defnydd o'r Gymraeg wedi ei 'normaleiddio', yn enwedig ymysg newydd-ddyfodiaid.
"Mae gan rai straeon am ddefnyddio Cymraeg - a bod yn falch o fod yn dysgu'r iaith - a chael sylwadau negyddol, hyd yn oed gan siaradwyr Cymraeg, fel 'Pam ydych chi eisiau dysgu ein hiaith? Does prin neb yn ei siarad hi'."
Mae siaradwyr Cymraeg yn rhy barod i newid i'r iaith gyffredin, sef Saesneg.
"Cwrteisi ieithyddol ydi'r term am hyn - maen nhw eisiau helpu drwy beidio gorfodi'r person i drio siarad yn Gymraeg. Ond doedd hyn ddim yn help iddyn nhw.
"Dydi rhywun sy'n ymroddedig i ddysgu iaith ac sy'n chwilio am gyfleoedd i ymarfer ddim yn mynd i hoffi peidio cael y cyfle am fod pobl yn newid i Saesneg."
Eu prif gymhelliad dros ddysgu ydy eu bod nhw eisiau cydnabyddiaeth gan y gymuned a chael eu gweld fel modelau rôl i bobl eraill yn eu sefyllfa.
"Doedd dim llawer yn dysgu Cymraeg er mwyn cael job well. Yn hytrach, yr awydd i integreiddio neu ddiddordeb diwylliannol yw'r cymhelliad," meddai Mr Brunner.
Y ffaith fod digwyddiadau lleol yn digwydd yn Gymraeg neu'r iaith yn cael ei siarad yn y gweithle oedd y prif ysgogiad i ddysgu'r Gymraeg.
"Ym mhob achos, roedden nhw'n gwerthfawrogi pan oedd siaradwyr brodorol yn dangos eu gwerthfawrogiad ac yn cynnig cefnogaeth a chymorth iddyn nhw siarad yr iaith," meddai.
Er eu bod eisiau cael eu gwerthfawrogi, doedd yr ymatebwyr ddim eisiau i siaradwyr Cymraeg fod yn "ddiolchgar".
"Yn lle dweud 'dwi'n ddiolchgar iawn ichi am wneud yr ymdrech i wneud hyn', maen nhw eisiau clywed 'dwi'n falch o glywed eich bod yn dod ymlaen yn dda efo'ch Cymraeg' fel ei fod yn llawer mwy normal yn y ffordd rydych chi'n ymateb iddyn nhw.
"Fel arall mae'n atgyfnerthu bod yr iaith yn israddol."
Mae llawer o'r ymatebwyr yn disgrifio'r gymuned Gymraeg ei hiaith fel cylch mewnol a chymuned glos, gaeedig, sy'n anodd dod yn rhan ohoni, ond sy'n beth gwych unwaith roedden nhw'n cael eu cydnabod yn rhan ohoni.
"Doedd neb yn fy ymchwil i yn negyddol am y gymuned exclusive yma o siaradwyr Cymraeg ond roedd llawer yn cydnabod ei bodolaeth.
"Unwaith roedden nhw'n rhan o'r gymuned roedden nhw'n dweud eu bod yn cael dealltwriaeth well o werthoedd a meddylfryd y bobl leol.
"Drwy ddefnyddio Cymraeg, roedden nhw'n teimlo fod y bobl leol yn fwy agored, tryloyw a chyfeillgar gan eu bod yn teimlo'n fwy cyfforddus i fynegi eu hunain yn Gymraeg.
"Mae'n ddiddorol, achos dwi wedi gweld hyn yng Nghatalonia hefyd."
Roedd nifer yn teimlo sioc a syndod ar ôl cyrraedd Cymru a darganfod yr iaith a'r diwylliant - roeddent yn dweud mai ychydig o wybodaeth am y sefyllfa ddwyieithog sy'n cael ei rhoi gan yr awdurdodau.
"Roedden nhw'n dweud nad oedd ganddyn nhw ddealltwriaeth lawn o beth roedd yr iaith Gymraeg yn ei olygu i'r bobl leol pan wnaethon nhw symud yno gyntaf,
"Heb wybod hynny dydych chi ddim yn gwybod lle i'w rhoi hi - beth mae'n ei olygu? Ydy hi'n rhywbeth y dylwn i fod yn ei dysgu? Ydy hi'n rhywbeth ddylwn i ddim ei dysgu? Oes ots? Neu ddylwn i fod ag embaras am ddefnyddio Saesneg? Doedden nhw ddim yn gwybod lle i osod y Saesneg a'r Gymraeg a beth oedd rôl y ddwy iaith.
"Os ydych chi'n symud i'r ardal ac yn gwybod eich bod chi yn y Deyrnas Unedig ac mai'r brif iaith ydy Saesneg ac rydych chi'n gweld y Gymraeg wedi ei sgrifennu a weithiau'n clywed pobl yn ei siarad fe allech chi ddatblygu agwedd lai ffafriol tuag at y Gymraeg, ac mae hynny oherwydd diffyg gwybodaeth," meddai.
"Roedd y prosiect yn pwysleisio'r angen i normaleiddio Cymraeg i fewnfudwyr, creu mwy o gyfleoedd i ddysgu a defnyddio Cymraeg mewn bywyd bob dydd a sefydlu'r iaith Gymraeg fel arf i gofleidio amlddiwylliant ac amrywiaeth," meddai Mr Brunner.
"Roeddwn yn cael yr argraff y byddai'n llawer gwell gan lawer ohonyn nhw glywed eu bod yn rhan o'r gymuned a chael eu gwahodd i ddigwyddiadau Cymraeg yn y gymuned leol na chlywed bod pobl yn anhygoel o ddiolchgar iddyn nhw am yr ymdrech o geisio dysgu ychydig o Gymraeg.
"Beth fyswn i'n ei gymryd o hyn ydy ei drin fel rhywbeth normal eu bod yn defnyddio Cymraeg - peidiwch â'i ddisgwyl, oherwydd mae'n gallu bod yn anodd am nifer o resymau, ond os ydyn nhw, rhowch gariad a chefnogaeth iddyn nhw!"
Hefyd o ddiddordeb: