Teulu'n flin am ofal ei mab fu farw mewn ffrwydrad garej

  • Cyhoeddwyd
Christopher JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Christopher Jones wedi ceisio lladd ei hun nifer o weithiau, yn ôl ei deulu

Mae teulu dyn a fu farw mewn ffrwydrad garej am gael gwybod sut yr oedd hi'n bosib iddo adael uned iechyd meddwl heb oruchwyliaeth.

Roedd Christopher Jones, 32, yn cael gofal yn uned Talygarn yn Ysbyty'r Sir, Pont-y-pŵl, Torfaen ond doedd ei rieni ddim yn gwybod ei fod wedi gadael yr ysbyty tan wedi'r ffrwydrad yn eu cartref ar 22 Gorffennaf.

Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi dweud nad yw'n bosib iddyn nhw wneud sylw ar hyn o bryd.

Mae mam Christopher, Kathie Jones, yn credu bod ei mab wedi lladd ei hun yn y garej yn ardal Coed Camlas, Pont-y-pŵl, ac yn dweud ei fod wedi ceisio lladd ei hun o'r blaen.

"Yn syth, mi glywais i sgrechian," meddai, "fe glywais i rywun yn gweiddi am help a deall wedyn mai dyn yn byw gyferbyn oedd e yn trwsio ei ffens.

"Doeddwn i ddim yn credu mai ein garej ni oedd e - ro'n i'n credu bod 'na ffrwydrad nwy anferth wedi bod.

"Fe welais i fflamau ac yn syth mi ffoniais i'r frigâd dân."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd teulu Christopher Jones yn credu bod y ffrwydrad wedi digwydd drws nesaf

Ychwanegodd y fam nad oedd hi'n credu ar y pryd bod ei mab â rhan yn y ffrwydrad gan ei fod yn yr ysbyty ac roedd hi fel arfer yn ei gasglu yn hwyrach yn y dydd er mwyn mynd ag e allan.

Yn fuan wedyn sylwodd bod yr ysbyty wedi ei ffonio hi.

"Fe ffoniais nôl," meddai, "ac fe ddywedon nhw wrthyf ei fod wedi cael caniatâd i adael am ddwy awr.

"Wedyn nes i gwympo achos ro'n yn gwybod. Roedd hynny rhyw awr dda wedi'r ffrwydrad."

Dywedodd llysdad Christopher, Brian Travers: "Yn fuan wedyn fe ddywedodd ditectif eu bod wedi dod o hyd i gorff ac roeddwn yn gwybod yn iawn pwy oedd e."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Kathie Jones a Brian Travers yn dweud eu bod yn chwilio am atebion

Ychwanegodd Brian Travers bod angen holi mwy am y gofal a dderbyniodd Christopher Jones.

Mae'r cwest i farwolaeth Mr Jones eto i'w gynnal.

Mae'r teulu yn cyfeirio'n benodol at ddiwrnod San Steffan pan geision nhw fynd ag e fewn i uned ond fe'u hanfonwyd adre ac fe wnaeth Mr Jones geisio lladd ei hun.

Ers hynny roedd yr uned yn gofalu amdano.

'Fy unig blentyn wedi marw mewn poen'

"Yn bendant mae nifer o gwestiynau angen eu hateb. Pam, er enghraifft, ei fod wedi cael ei adael allan am ddwy awr ac yntau yn glaf risg uchel - y ddwy awr a gymerodd iddo ei ladd ei hun," meddai Mr Travers.

"Does neb wedi cysylltu â ni - ac mi fuaswn wedi disgwyl hynny gan fod Christopher o dan ofal yr uned pan wnaeth e ladd ei hun.

"Dwi'n synnu bod neb wedi ymddiheuro."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Christopher Jones ddiddordeb mewn gemau fideo

Ychwanegodd Kathie Jones: "Dwi'n teimlo fod pawb wedi methu yn yr achos hwn. Ddylen ni ddim bod wedi cyrraedd fan hyn.

"Roedd ganddo nifer fawr o gynlluniau. Wnaeth neb helpu a dim ond rhai pobl a geisiodd roi cymorth iddo.

"Dwi'n flin gyda beth sydd wedi digwydd. Mae fy unig blentyn wedi diflannu ac wedi marw mewn poen."

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan eu bod yn cydymdeimlo â theulu Mr Jones.

"Ry'n wedi cysylltu â'i deulu ac fe fyddwn yn parhau i gynnig cefnogaeth.

"Ond ar hyn o bryd dyw hi ddim yn briodol i ni wneud unrhyw sylw pellach."