Dynladdiad: Teyrnged teulu wrth i ddyn fynd o flaen llys
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn 36 oed a fu farw wedi digwyddiad yng nghanol Wrecsam dros y penwythnos wedi rhoi teyrnged iddo, wrth i ddyn lleol fynd o flaen llys ar gyhuddiad o ddynladdiad.
Roedd Philip James Long, o Marchwiel, yn briod ac yn dad i bedwar o fechgyn.
Cafwyd hyd iddo yn anymwybodol yn Stryd y Coleg wedi i'r heddlu gael eu galw yno tua 01:40 fore Sul, 4 Awst, a bu farw ar ôl cael ei gludo i ysbyty yn Stoke.
Mae Matthew Curtis, 18 oed o ardal Gwersyllt wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos o flaen ynadon Yr Wyddgrug ddydd Mercher wedi i'r heddlu ei gyhuddo o ddynladdiad Mr Long.
Mae disgwyl iddo fynd o flaen Llys Y Goron Yr Wyddgrug ar 6 Medi.
Dywed teulu Mr Long mewn datganiad ei fod "yn dad annwyl" oedd yn dotio ar ei fechgyn, a bod y farwolaeth "yn golled aruthrol i'r teulu cyfan ac i'w lu o gyfeillion.
"Roedd yn ŵr hollol fonheddig ac yn rhoi pobl eraill yn gyntaf ac eisiau helpu.
"Bydd yn cael ei golli'n arw bob eiliad o bob diwrnod."
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Gary Kelly o Heddlu Gogledd Cymru: "Bydd marwolaeth Philip ag effeithiau pellgyrhaeddol i lawer o bobl, yn bennaf i'w wraig Hayley a phedwar plentyn ifanc."
Ychwanegodd bod ymchwiliadau'r heddlu'n parhau i'r achos, gan apelio eto ar i unrhyw un a welodd y digwyddiad yn Stryd y Coleg i gysylltu â nhw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2019