Rhith realiti i geisio lleddfu poen beichiogrwydd

  • Cyhoeddwyd
Hannah Lelii
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Hannah Lelii yn un o'r rhai fu'n arbrofi cyn rhoi genedigaeth

Fe allai offer rhith realiti fod ar gael i ferched beichiog ar wardiau ysbytai Cymru yn y dyfodol, pe bai cyfnod treialu'n profi'n llwyddiannus.

Ar hyn o bryd mae'r offer yn cael ei gynnig fel arbrawf i ferched beichiog yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Nod yr offer yw ceisio helpu'r ddarpar fam i reoli poen drwy dynnu sylw at rywbeth arall.

Un o'r rhai sydd wedi defnyddio'r offer tra'n feichiog yw Hannah Lelii.

'Help mawr'

"Roedd e'n help mawr i gael rhywun i ymlacio," meddai.

"Mae e wir yn cynnig golygfa 360 gradd, felly pan oeddwn yn troi o'n i'n edrych ar olygfa gwbl wahanol.

"O bosib dyw e ddim i bawb, ond rwy'n meddwl bod o'n rhoi dewis gwahanol. Dwi'n meddwl fe allai weithio mewn sefyllfaoedd gwahanol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r offer newydd ar gyfnod prawf yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd

Yn ôl y datblygwr, Rescape, mae'r offer, sy'n costio tua £4,000 yr un, yn ffordd gost-effeithiol sy'n caniatáu i ysbytai gynnig gwahanol fathau o driniaethau.

"Mae'r diwydiant wedi symud o faes cynnig gemau hamdden ac erbyn hyn yn datblygu ym maes therapi," meddai cyd-sefydlydd y cwmni, Glenn Hapgood.

"Dyw aros mewn ysbyty ddim yn rhywbeth i'w fwynhau.

"Felly o bersbectif therapi, mae'n symud rhywun o'u hamodau neu eu hamgylchedd yn ateb syml i'r broblem."

Dywedodd Mr Hapgood bod 900 o dreialon clinigol wedi eu cwblhau yn y maes lleihau poen drwy ddefnyddio rhith realiti.

'Anghofio am y presennol'

Dywedodd Suzanne Hardacre, pennaeth bydwragedd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, fod y dechnoleg yma yn gallu cynnig dewis arall i'r modd o reoli poen.

"Mae'n rhoi cyfle i ni wneud rhywbeth gwahanol, rhywbeth arloesol sy'n cael ei ddefnyddio yn unman arall," meddai.

"Mae yna gyfle gwych i'w ddefnyddio yn enwedig yn ystod cyfnodau cynnar rhoi genedigaeth.

"Gallai helpu gydag anadlu ac ymlacio, a gwneud i rywun anghofio am y presennol."

Dywedodd Ms Hardacre fod yna hefyd botensial i'w ddefnyddio gyda menywod sydd wedi dioddef genedigaeth boenus yn y gorffennol.

"Ar gyfer y cyfnodau cynnar o roi genedigaeth ar hyn o bryd rydym yn gallu cynnig dŵr, anadlu ac ymlacio," meddai.

"Mae rhith realiti yn rhoi dimensiwn ychwanegol i hyn."