Prifysgol Abertawe yn diswyddo trydydd aelod o staff

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae trydydd aelod o staff Prifysgol Abertawe wedi ei ddiswyddo.

Dywedodd y brifysgol mewn datganiad bod Steve Poole wedi ei ddiswyddo o'i rôl yn yr Ysgol Reolaeth am "gamymddwyn dybryd", a hynny ar unwaith.

Cafodd yr Is-ganghellor, yr Athro Richard Davies, a Deon yr Ysgol Reolaeth, yr Athro Marc Clement, eu diswyddo fis diwethaf.

Roedd y ddau yn gwadu gwneud unrhyw beth o'i le, ac yn bwriadu apelio.

Dywedodd y brifysgol bod proses ddisgyblu'r panel wedi dod i ben.

Dywedodd y datganiad: "Mae gan yr unigolion yr hawl i apelio yn erbyn eu diswyddiadau.

"Oherwydd hyn, ac ymchwiliad gan yr awdurdodau, nid yw'r brifysgol yn bwriadu gwneud sylw pellach ar hyn o bryd."

Cafodd Mr Poole ei wahardd ar yr un pryd a'r Athro Davies a'r Athro Clement, yn ogystal ag aelod arall o staff, Bjorn Rodde - wnaeth ymddiswyddo ym mis Mawrth.