Pryder wedi ffrwydrad mewn ffatri powdwr alwminiwm

  • Cyhoeddwyd
Ffrwydrad CaergybiFfynhonnell y llun, Megan Wyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd yr olygfa nos Sadwrn o ryw filltir a hanner o safle'r ffrwydrad

Mae un o gynghorwyr lleol Caergybi yn galw ar reolwr ffatri powdwr alwminiwm am sicrwydd ynghlych eu systemau diogelwch wedi ffrwydrad ar y safle nos Sadwrn.

Cafoodd swyddogion tân, heddlu ac ambiwlans eu galw i ardal ddiwydiannol yn y dref ychydig wedi 18:00 ar safle'r cwmni powdwr alwminiwm, AMG Alpoco, a bu'n rhaid i ddau ddyn cael triniaeth at fân anafiadau.

Dywed y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes bod trigolion lleol yn bryderus, gan nad dyma'r ffrwydrad cyntaf yno.

Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb gan y cwmni.

'Brawychus'

Mewn negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd pobl eu bod wedi clywed clec uchel a gweld mwg gwyn wedi'r ffrwydrad.

Yn ôl rhai, roedd posib gweld y mwg o bellter o dros 10 milltir ac fe wnaeth y glec achosi i'w ffenestri ysgwyd.

Dywedodd Ceri Knight, sy'n byw yng Nghaergybi ac yn nabod pobl sy'n gweithio yn y ffatri, bod "pawb wedi dod allan o'u tai" i weld beth oedd wedi digwydd.

"Dydan ni ddim yn siwr be ddigwyddodd ond roedd o'n eitha brawychus."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes yn dweud bod sawl ffrwydrad wedi bod yn y ffatri ers y 1980au

Roedd yna ffrwydrad yn y ffatri yn 2015 ac mae Trefor Lloyd Hughes - un o gynghorwyr ward Ynys Gybi ar Gyngor Sir Ynys Môn ac aelod o Gyngor Tref Caergybi - yn cofio o leiaf un achos tebyg arall yn y 1980au.

"Mae hyn yn digwydd yn rhy aml rwan ac mae'n rhaid neud rwbath," meddai. "Mae pobol Caergybi yn poeni."

Mudlosgi

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod wedi danfon pedwar o griwiau i'r ffatri ger yr A5, Ffordd Llundain.

Yn ôl llefarydd, roedd dau ddyn wedi mynd i'r ysbyty ar eu liwt eu hunain am driniaeth at fân anafiadau, ond chafodd neb driniaeth yn y fan a'r lle.

Ychwanegodd bod tân ar y safle wedi ei gyfyngu i gynhwysyn a bod disgwyl iddo fudlosgi "am beth amser" ond bod y sefyllfa'n cael ei monitro a doedd dim perygl i'r cyhoedd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) eu bod heb eu "hysbysu'n ffurfiol eto ynghylch y digwyddiad yma" ond bod dyletswydd i wneud hynny dan amgylchiadau penodol o fewn 10 diwrnod.