Pryderon wrth i ganolfan prawf gyrru Llambed gau
- Cyhoeddwyd
Mae Maer Llanbedr Pont Steffan wedi beirniadu penderfyniad yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau, DVSA, i gau y ganolfan prawf gyrru yn y dref.
Yn ôl yr Asiantaeth, mi fydd dysgwyr yn cael gwasanaeth "mwy cyson" yn eu canolfannau yng Nghaerfyrddin ac Aberystwyth.
Bydd drysau'r swyddfa sydd yng nghanolfan Dulais yn cau ar Awst 22ain ac felly bydd dysgwyr yn gorfod sefyll eu prawf o hyn ymlaen naill ai yng Nghaerfyrddin, Aberystwyth neu Aberteifi - taith o 23 milltir, 25 milltir a 29 milltir.
Mae'r Cynghorydd Rob Phillips yn dweud bod y penderfyniad yn "siom fawr".
"Mae'n wasanaeth pwysig i'r ardal," meddai, "mae ein pobl ifanc yn mynd i orfod teithio i Gaerfyrddin neu Aberystwyth, tri chwarter awr i awr o deithio.
"Mae cost gwersi yn mynd i gynyddu. Mae'n mynd i wneud pethe lot fwy anodd iddyn nhw. Does yna ddim ymgynghori wedi bod.
"Dwi'n eitha sinicaidd ac yn amau gan fod yr adeilad yn cael ei ail-ddatblygu, eu bod nhw'n chwilio am esgus i gau'r ganolfan."
'Lot mwy costus'
Mae Elan Jones, sydd bron yn 17 oed, yn eithriadol o siomedig gyda'r penderfyniad.
Dywedodd: "Mae e yn drueni. Mae e braidd yn annheg. Yn bendant mae dwy ochr i'r ddadl oherwydd yn Llambed chi'n dysgu sut i yrru mewn amodau cefn gwlad - llai o draffig, a heolydd cul a throellog. Yn llefydd fel Caerfyrddin neu Aberystwyth, chi'n dysgu ar heolydd gyda mwy o draffig. Ond yn bendant bydd e lot mwy costus.
Mae Dafydd Jones sydd yn 15 oed, yn dweud y bydd hi'n rhoi straen ychwanegol ar ddysgwyr yng nghefn gwlad.
Dywedodd wrth BBC Cymru: "Mae'n mynd i gymryd lot o amser i drafaelu'n bellach. Mae hi'n 40 munud i Gaerfyrddin."
Mae Daniel Jones sydd yn 16 oed yn poeni am y gost ychwanegol:
"Bydd y gost llawer mwy," meddai, "a bydd e'n hala lot mwy o amser i ymarfer mewn lle dieithr. Fydd e'n dwblu yr amser o ran ymarfer a'r gost yn llawer mwy."
Yn ôl Rob Phillips does yna ddim ymgynghori wedi bod ynghylch y penderfyniad:
"Mae'n swnio fel penderfyniad sydd wedi cael ei wneud gan rywun sydd yn byw mewn dinas a falle sydd ddim yn deall anghenion gyrru cefn gwlad a ddim yn gwerthfawrogi bod nhw'n wahanol, a bod gwneud prawf mewn tref fawr ddim yn mynd i baratoi rhywun i yrru yng nghefn gwlad," meddai.
'Ehangu profiad'
Mewn datganiad, fe ddywedodd y DVSA, bod y ganolfan yn Llanbed ddim ond ar agor am ddeuddydd yr wythnos yn unig, ac eu bod nhw wedi cael gwybod gan y landlord bod y safle yn cael ei ail-ddatblygu.
Yn ôl yr Asiantaeth, bydd ymgeiswyr yn medru cael profiad o bob elfen o'r prawf gyrru yn eu canolfannau yng Nghaerfyrddin ac Aberystwyth, ac felly mae'n eu paratoi ar gyfer oes o yrru'n ddiogel.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd4 Awst 2017
- Cyhoeddwyd2 Mai 2017