Fy Steddfod i: Cadi Edwards

  • Cyhoeddwyd
cadi a'i ffrindiauFfynhonnell y llun, CADI EDWARDS
Disgrifiad o’r llun,

Cadi (canol) gyda chyd-aelodau o gôr Cantilena, Cari a Lleucu

Wel, sut oedd y Steddfod i chi? Fe ofynnodd Cymru Fyw i Cadi Edwards o Lanrwst edrych yn ôl ar yr wythnos...

Fel y canodd Gildas yn 'Y Gŵr o Gwm Penmachno', y gân ddaeth a Noson Lawen Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 i ben "it's raining old ladies and sticks".

Ac yn wir, mi wnaeth hi fwrw hen wragedd a ffyn 'leni. Roedd yr holl banics ynghylch y tywydd oedd ar y gorwel yn gwneud i mi ryfeddu nad oedd cyngor Conwy wedi dechrau adeiladu arch fwy nag arch Noa ei hun a dewis dau feirniad, dau gyfeilydd, dau brifardd ayyb i gael lle arni.

Un uchafbwynt oedd gwylio fy mrawd, a degau o wynebau cyfarwydd, yn perfformio 'Te yn y Grug' yn y pafiliwn - stori oeddwn i wedi'i hastudio ar gyfer f'arholiadau TGAU. Doedd gen i ddim awydd ei hail-fyw a bod yn berffaith onest, ond cefais fy siomi ar yr ochr orau oherwydd roedd y sioe wirioneddol yn wych!

Llongyfarchiadau i'r Eisteddfod am fod mor uchelgeisiol ac i bawb arall a gymerodd ran yn y sioe anhygoel.

Ffynhonnell y llun, CADI EDWARDS
Disgrifiad o’r llun,

Perfformiodd Cadi yng Nghaffi Maes B yn ystod yr wythnos

Mae pawb wedi clywed am bobl ifanc Maes B yn cael eu gyrru adra'n frysiog ar fore dydd Gwener, tent mewn un llaw a chwrw yn y llall. Mae pawb yn gwybod mai penderfyniad call ar gyfer ein diogelwch ni oedd o - ond lle oedd y corwynt 'ma?

Wnaiff 'chydig o wynt a glaw fyth gadw pobl ifanc Cymru o 'seshwn'- dyna oedden ni'n ei feddwl beth bynnag. Roedd yn andros o siom mai dim ond dwy noson ym Maes B gawsom ni, ond ta waeth, mi oeddwn i'n edrych yn ddigon o sioe yn fy wellies yng nghanol clwb nos leol y dre'.

Partïo gyda'r Archdderwydd

Roedd bod mewn clwb nos yng nghwmni pobl fel Geraint Lovegreen a Myrddin ap Dafydd yn foment swreal i'w chofio am byth! Bydd cystadlu mewn dwy gystadleuaeth gorawl gyda'n côr lleol 'Cantilena' hefyd yn atgof melys i mi, er i ni gael cam (yn ôl Mam a Dad, y beirniaid pwysicaf).

Er hynny mi oedd 'na gyfle i foddi ein gofidion yn y Bar Gwyrdd wrth wrando ar Bryn Fôn ar lwyfan y Maes nos Sul - noson a hanner! Diolch i drefn, mi enillodd barti meibion o Ddyffryn Conwy, Hogie'r Berfeddwlad, y brif wobr yn y gystadleuaeth 'Parti Alaw Werin' ar ddydd Gwener, roedd yn braf gweld criw lleol yn gwneud mor dda.

Wedi byw yn Llanrwst erioed, mae gwreiddiau fy nheulu wedi'u plannu'n ddwfn yn yr ardal. Gallwch chi gredu felly fy mod i wedi edrych ymlaen at yr Eisteddfod yma ers bron i ddwy flynedd. Dwy flynedd o drefnu, dwy flynedd o wirfoddoli, dwy flynedd o waith caled pobl leol a threfnwyr yr Eisteddfod.

Pan aeth pob dim ar chwâl ym Maes B mi oeddwn i'n tueddu i ddweud "ar ran Llanrwst, sori am y 'shambyls" ond dwi ddim am ymddiheuro rhagor achos mi gawsom ni andros o wythnos lwyddiannus.

Ffynhonnell y llun, ffotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Myrddin ap Dafydd argraff fawr ar Cadi fel Archdderwydd

Does neb, hyd yn oed Myrddin ap Dafydd, yn gallu rheoli'r tywydd. Er, y sôn yn lleol ydi ei fod o bellach yn medru cerdded ar ddŵr cymaint oedd ei lwyddiant fel Archdderwydd.

Roedd yr holl fandiau a chystadleuwyr a oedd yn perfformio ar hyd y Maes yn wych, doedd y traffig ddim rhy ddrwg o gwbl, y bysus yn mynd a dod yn ddidrafferth, y dref ei hun yn orlawn a'r awyrgylch yn groesawgar a phawb yn cyd-ganu 'Cymru, Lloegr a Llanrwst' pob cyfle posib.

Mae'r wythnos yma wedi fy ngwneud yn falch iawn i fod yn ferch o Ddyffryn Conwy.

Sir Conwy a Llanrwst, diolch am wythnos i'w chofio a'i thrysori am byth.

Hefyd o ddiddordeb: