Y Bencampwriaeth: Abertawe 3-2 Preston North End

  • Cyhoeddwyd
Borja BastonFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dechreuad addawol Abertawe i'r tymor yn parhau yn dilyn prynhawn hynod gyffrous yn Stadiwm Liberty.

Yr ymwelwyr, Preston North End, aeth ar y blaen wedi 11 munud diolch i ergyd bwerus Joe Rafferty o 20 llath.

Bron i'r ymwelwyr ddyblu'r fantais pum munud yn ddiweddarach, ond cafodd ymosodwr Cymru, Billy Bodin ei rwystro gan Freddie Woodman.

Llwyddodd yr Elyrch i ddod yn gyfartal yn eiliadau olaf yr amser ychwanegwyd am anafiadau ar ddiwedd yr hanner cyntaf diolch i'r Sbaenwr, Borja Baston.

Roedd perfformiad Abertawe yn yr ail hanner yn lawer fwy bywiog, ac ar ôl 63 munud fe darodd George Byers y bêl i gornel uchaf y rhwyd o ganol y cwrt cosbi.

Ond munud wedi'r ailddechrau fe roddwyd cic o'r smotyn i Preston yn dilyn tacl flêr gan Connor Roberts, ac fe ergydiodd Daniel Johnson yn gywir i'w gwneud hi'n 2-2.

Daeth y gôl hollbwysig wedi 67 wrth i Baston benio croesiad Jake Bidwell heibio'r golwr i roi'r Elyrch 'nol ar y blaen.

Golygai'r fuddugoliaeth bod Abertawe yn codi i'r pedwerydd safle yn y Bencampwriaeth.