Y Gynghrair Genedlaethol: Notts County 1-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Wrecsam frwydro 'nôl i sicrhau pwynt gwerthfawr oddi cartref yn erbyn un o'r ffefrynnau i ennill dyrchafiad o'r Gynghrair Genedlaethol.
Notts County aeth ar y blaen gydag 20 munud yn weddill ar ôl i groesiad Regan Booty ddarganfod Kristian Dennis yn rhydd wrth y postyn cefn.
Ond pum munud yn ddiweddarach roedd y Dreigiau'n gyfartal diolch i ergyd ardderchog gan Devonte Redmond o ymyl y cwrt cosbi.
Bu bron i'r tîm cartref gipio'r triphwynt yn y munudau olaf, ond fe lwyddodd Christian Dibble i arbed ergyd Enzio Boldewijn.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Wrecsam yn codi i'r nawfed safle yn y Gynghrair Genedlaethol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2019
- Cyhoeddwyd10 Awst 2019
- Cyhoeddwyd6 Awst 2019