Ymgynghori ar gais UNESCO ardal lechi Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Chwarel Dinorwig ger LlanberisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chwarel Dinorwig yn un o'r safleoedd sy'n rhan o'r cais

Mae yna wahoddiad i'r cyhoedd fynegi barn ar gynllun drafft sy'n amlinellu sut y gallai ardal lechi Gwynedd elwa petai'n llwyddo i sicrhau statws Treftadaeth y Byd.

Mae'r ymgynghoriad yn rhan o'r gwaith paratoi cyn bod rhaid cyflwyno cais terfynol i gorff treftadaeth y Cenhedloedd Unedig, UNESCO, yn yr hydref.

Fe wnaeth Llywodraeth y DU enwebu'r hen ardal lechi fel Safle Treftadaeth y Byd posib y llynedd.

Petai'r cais yn llwyddo fe fyddai'r ardal ar yr un rhestr ag atyniadau amlwg fel y Taj Mahal, Pyramidiau'r Aifft a Mur Mawr China.

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 30 Medi ac mae disgwyl penderfyniad terfynol i'r cais yn ystod haf 2021.

Ffynhonnell y llun, RCAHMW
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cais hefyd yn cynnwys Chwarel y Penrhyn ym Methesda

Mae 31 o safleoedd treftadaeth UNESCO eraill ym Mhrydain, gan gynnwys tri yng Nghymru: dyfrbont Pontcysyllte, ardal ddiwydiannol Blaenafon a chestyll Gwynedd.

Mae'r cais yn cael ei baratoi gan Gyngor Gwynedd ar ran Grŵp Llywio Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, ac yn cynnwys saith safle o fewn y sir a Pharc Cenedlaethol Eryri:

  • Chwarel y Penrhyn a Bethesda, a Dyffryn Ogwen at Borth Penrhyn;

  • Tirwedd fynyddig Chwarel Dinorwig;

  • Tirwedd Chwareli Dyffryn Nantlle;

  • Chwareli Gorseddau a Thywysog Cymru y rheilffyrdd a'r felin yng Nghwmystradllyn a Chwm Pennant;

  • Mwyngloddiau a chwareli llechi, Ffestiniog, a'r rheilffordd i Borthmadog;

  • Chwarel Bryneglwys, pentref Abergynolwyn a Rheilffordd Tal-y-llyn; a

  • Chwarel Aberllefenni.

Mae'r cynllun rheolaeth drafft yn egluro sut y byddai Cyngor Gwynedd "yn ymdopi â newid yn yr ardal yn dilyn y dynodiad ac yn defnyddio'r statws i warchod, hyrwyddo a gwella'r ardal er budd cymunedau lleol ac ymwelwyr".

Disgrifiad o’r llun,

Mae modd defnyddio'r statws i warchod y tirlun a sicrhau manteision economaidd, yn ôl y cynghorydd Gareth Thomas

"Ein bwriad gyda'r gwaith ydi dathlu ein hanes, ond hefyd i ddefnyddio'r cyfle i adfywio cymunedau trwy dreftadaeth a chreu cyfle newydd a chyffrous i fusnesau," meddai'r aelod o gabinet y cyngor sy'n gyfrifol am ddatblygu economaidd, y cynghorydd Gareth Thomas.

"Gallai sicrhau Statws Safle Treftadaeth y Byd ddod a miliynau o bunnau i'r economi leol, creu swyddi newydd a gallai'r statws ddyrchafu Gwynedd a'i arwyddocâd hanesyddol yn llygaid gweddill y byd.

"Er mai saith o safleoedd fyddai'n ffurfio'r statws Treftadaeth y Byd, y gobaith yw y byddai'n annog ymwelwyr o bell ac agos i grwydro o un lleoliad i'r llall - gan ledaenu'r budd economaidd i gymunedau ledled Gwynedd.

"Wrth gwrs, mae'n ddyletswydd arnom fel Cyngor i sicrhau ein bod yn rheoli a gwarchod y tirlun a gweithio gyda'r gymuned leol a busnesau er mwyn dod a'r budd gorau i'r ardal."