Ffilm Cymraes yn 'rhoi sylw i straeon pobl LHDT hŷn'
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwr ffilm o Gymru sydd wedi ennill gwobr ryngwladol yn dweud bod angen rhoi mwy o sylw i straeon pobl LHDT hŷn yn y byd ffilmiau.
Fe wnaeth Time & Again, gyda'r Gymraes Siân Phillips yn chwarae un o'r prif rannau, ennill Gwobr y Gynulleidfa am y ffilm naratif fer orau yng Ngŵyl Ffilmiau Outfest yn Los Angeles yn ddiweddar.
Mae'r ffilm yn adrodd stori dwy ddynes oedd mewn cariad sy'n cael eu gwahanu oherwydd amgylchiadau cymdeithas, cyn cyfarfod eto tua diwedd eu bywydau.
Dywedodd y cyfarwyddwr Rachel Dax, sydd o Gaerdydd, ei bod hi wedi mynd ati i ysgrifennu'r ffilm am ei bod hi eisiau gweld newid o fewn y diwydiant.
"Roeddwn i eisiau adrodd stori am lesbiaid hŷn oedd yn edrych ar sut wnaeth cymdeithas eu gwthio nhw i'r neilltu yn y gorffennol, ond sut maen nhw'n delio â hynny mewn ffordd bositif yn y dyfodol, yn hytrach na dim ond hel atgofion am garwriaeth a gollwyd," meddai.
"Mae wedi bod yn fraint ac anrhydedd cyfarwyddo actorion o fri fel y Fonesig Siân Phillips a Brigit Forsyth, sydd wedi rhoi cymaint o fywiogrwydd a lliw i'r cymeriadau Eleanor ac Isabelle."
Cafodd y ffilm, gafodd ei saethu mewn plasty ger Caerdydd, ei dangos am y tro cyntaf ym mis Mawrth ac mae eisoes wedi ennill gwobrau mewn sawl gŵyl ffilmiau yn yr UDA.
Wrth siarad â BBC Cymru dywedodd y Fonesig Phillips fod y "sgript wych" wedi ei denu at y ffilm, a'i bod yn "falch iawn" o fod yn rhan ohoni.
"Dwi'n gobeithio y bydd ffilm Rachel yn cael y cynulleidfaoedd niferus ac amrywiol y mae'n haeddu ei chael," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd16 Mai 2019
- Cyhoeddwyd2 Mai 2019