Cyhuddo dyn o achosi anafiadau trwy yrru'n beryglus

  • Cyhoeddwyd
Rhyd y Galen
Disgrifiad o’r llun,

Mae maes gwersylla Rhyd y Galen ar gyrion Bethel, rhwng Bangor a Chaernarfon

Mae dyn 26 oed wedi cael ei gyhuddo o achosi anafiadau difrifol trwy yrru'n beryglus yn dilyn digwyddiad ar faes gwersylla ger Caernarfon fore Llun.

Cafodd pedwar o bobl - dau ddyn a dwy ddynes - eu hanafu gan gar oedd yn cael ei yrru dros faes pebyll Rhyd y Galen ar gyrion Bethel am tua 02:00.

Mae un ddynes yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor tra bo'r tri arall wedi gadael.

Mae Jake Waterhouse, o ardal Manceinion, yn wynebu pum cyhuddiad yn ymwneud â'r digwyddiad, gan gynnwys gyrru'n beryglus, gyrru heb yswiriant a gwrthod darparu prawf anadl.

Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Mercher.

'Brawychu'

Dywedodd perchnogion y gwersyll mewn datganiad ar eu tudalen Facebook: "Cawsom ein brawychu gan y digwyddiad difrifol yn Rhyd y Galen yn ystod oriau mân dydd Llun, 19 Awst.

"Mae ein meddyliau gyda phawb sydd wedi eu heffeithio ac yn arbennig gyda'r rhai sydd wedi eu hanafu.

"Rydym yn parhau i roi ein cefnogaeth lawn i ymchwiliad Heddlu'r Gogledd."

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod dyn arall gafodd ei arestio yn dilyn y digwyddiad wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.