Cyn Brif Weinidog yn cefnogi tro pedol ffordd liniaru'r M4

  • Cyhoeddwyd
Llun artist o ffordd liniaru'r M4Ffynhonnell y llun, Welsh Government
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o ffordd liniaru'r M4

Mae'r cyn Brif Weinidog Carwyn Jones wedi cefnogi penderfyniad ei olynydd i wrthod cynllun gwerth hyd at £1.6 bn ar gyfer ffordd liniaru'r M4.

Fe wnaeth Mark Drakeford gefnu ar y prosiect nôl ym mis Mehefin oherwydd ei gost, a'i effaith ar yr amgylchedd.

Yn wreiddiol, roedd Carwyn Jones yn cefnogi'r prosiect i adeiladu traffordd 14 milltir o hyd, ac mae'n dal yn dweud bod "angen gwneud rhywbeth" i fynd i'r afael â thagfeydd traffig ar yr M4 o amgylch Casnewydd.

Ond mewn cyfweliad â rhaglen Sunday Supplement BBC Radio Wales, dywedodd bod costau'r cynllun wedi cynyddu'n sylweddol a bod hynny'n "destun pryder" yn y misoedd olaf cyn iddo roi'i gorau i'w swydd fis Rhagfyr y llynedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Carwyn Jones bost cost cynyddol y cynllun yn ei boeni fwyfwy ym misoedd olaf ei gyfnod fel Prif Weinidog

Dywedodd AC Llafur Pen-y-bont, "Un o'r pethau olaf wnes i ynglŷn â'r M4 oedd mynd yn ôl at fy swyddogion a dweud, 'Mae'n rhaid i chi gael y gost i lawr, mae hyn yn ormod, mae'n rhaid gwneud hyn am bris llai ac mae'n mynd tu hwnt i reolaeth yn nhermau'r gost.

"Rhowch chi e fel hyn... pe tasech chi wedi gofyn wrtha'i ym mis Medi, Hydref 2018: a ddyle fe fynd yn ei flaen? A yw'r gost yn dderbyniol ac yn rhesymol?

"Fyddwn i wedi dweud na, roedd e'n ormod ar y pryd hynny."

Roedd yna addewid ym maniffesto Llafur Cymru ar gyfer etholiad 2016, pan roedd Mr Jones yn arwain y blaid, i godi ffordd liniaru'r M4.

Ond fe benderfynodd Mr Drakeford a'i weinidogion ym mis Ebrill bod y prosiect yn rhy ddrud, yn enwedig yng nghyd-destun blynyddoedd o lymder ac ansicrwydd ynghylch Brexit.

Ffynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Drakeford wrth gyhoeddi ei benderfyniad ym Mehefin y byddai'r cynllun yn cael "effaith andwyol sylweddol" ar fywyd gwyllt yn ardal Gwastadeddau Gwent

Cafodd ymchwiliad cyhoeddus i'r cynllun ei oruchwylio gan yr arolygydd cynllunio Bill Wadrup, a ddywedodd bod yna achos cryf o blaid codi'r ffordd.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns bod hi'n "ddiwrnod du" pan gafodd y penderfyniad ei gyhoeddi, ond roedd yn "newyddion gwych i Gymru a'r blaned" ym marn Cyfeillion y Ddaear.

'Llyncu cyllidebau ffyrdd eraill'

Mewn cyfweliad cynhwysfawr ar Sunday Supplement, dywedodd Mr Jones: "Mae'n rhaid gwneud rhywbeth, dyw jest ei adael e ddim yn realistig ac mae Mark yn gwybod hynny, fe ddywedodd hynny.

"Ond roedd y cost wedi codi'n aruthrol, ac roedden ni wedi cyrraedd pwynt ble... ddim jest yr arian bydden ni wedi gorfod benthyg fydde wedi talu am y ffordd, ond fydde wedi llyncu cyllidebau ffyrdd eraill.

"Felly fydden ni wedi gweld cynlluniau codi ffyrdd ar draws Cymru gyfan, ddim yn cael eu cyflawni oherwydd yr M4.

"Mae'n benderfyniad anodd, rwy' wedi dweud hyn sawl tro o'r blaen nad ydw i'n siŵr y bydde fy mhenderfyniad i wedi bod yn wahanol, i fod yn onest, oherwydd y gost."

Bydd comisiwn arbenigol dan arweiniad yr Arglwydd Burns yn edrych ar gynigion eraill allai datrys trafferthion traffig yr M4 yng Nghasnewydd.Mae'r cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones wedi cefnogi penderfyniad ei olynydd i wrthod cynlluniau £1.6bn ar gyfer ffordd liniaru'r M4.

Mae'n bosib clywed y cyfweliad llawn ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales ar BBC Sounds.