'Dim amheuaeth' bod menywod llai tebygol o gwyno am gamymddwyn

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carwyn Jones AC nad oedd yn gwybod a fyddai ail ddechrau'r yr ymchwiliad yn helpu unrhyw un

Mae Cymru wedi mynd "yn ôl 30 mlynedd" o ran menywod yn teimlo eu bod yn gallu gwneud cyhuddiadau o gamymddwyn rhywiol, yn ôl y cyn-brif weinidog Carwyn Jones.

Dywedodd fod Cymru "y tu ôl i'r mwyafrif o wledydd yng ngorllewin Ewrop yn ôl pob tebyg" yn dilyn ymddygiad rhai pobl ar ôl marwolaeth Carl Sargeant.

Cafwyd hyd i gorff Mr Sargeant grogi yn ei gartref yng Nghei Connah, Sir y Fflint, ar 7 Tachwedd 2017.

Cafodd ei ddiswyddo fel gweinidog cymunedau a phlant yn dilyn honiadau o ymddygiad amhriodol tuag at fenywod.

'Cost emosiynol'

Roedd cyn AC Alyn a Glannau Dyfrdwy wedi ei wahardd gan y Blaid Lafur, a oedd yn ymchwilio i'r honiadau.

Gwadodd Mr Sargeant yr honiadau ond cafodd yr ymchwiliad ei ollwng yn sgil ei farwolaeth.

Wrth siarad â rhaglen Sunday Supplement BBC Radio Wales, dywedodd Carwyn Jones AC nad oedd yn gwybod a fyddai ail ddechrau'r yr ymchwiliad yn helpu unrhyw un "oherwydd rwy'n credu bod y gost emosiynol ar y teulu, yn amlwg, wedi bod yn enfawr ond mae llawer o bobl eraill wedi talu cost emosiynol enfawr hefyd."

Ychwanegodd: "Mae wedi bod yn anodd iawn ac, wrth gwrs, doedd neb eisiau gweld beth ddigwyddodd i Carl. Mae wedi bod yn anodd iawn i mi a'r teulu ac i eraill.

"Nid yw'r un mor anodd ag y bu, wrth gwrs, i deulu Carl. Rydyn ni i gyd yn gwybod hynny.

"Rwy'n credu bod pwynt yn dod lle mae'n rhaid i ni ddweud, 'faint ymhellach all hyn fynd nawr?'"

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Carl Sargeant ym mis Tachwedd 2017

Eglurodd nad oedd yn galw am beidio â bwrw ymlaen a'r 'Ymchwiliad Bowen', sef yr ymchwiliad swyddogol i'r modd y diswyddodd Carl Sargeant sydd eto i'w ddechrau - "Nid dyna fy ngalwad ac nid wyf am ddweud unrhyw beth am hynny."

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn credu bod menywod bellach yn llai tebygol o gyflwyno cyhuddiadau o gamymddwyn rhywiol, dywedodd AC Pen-y-bont ar Ogwr: "Nid oes amheuaeth o gwbl.

"Oherwydd yr hyn a ddigwyddodd oedd bod rhestrau o ferched wedi cael eu rhoi i'r cyfryngau - roedd y Telegraph a'r Sun yn ddau - oherwydd eu bod wedi fy ffonio a darllen rhestr o enwau ataf a gofyn imi gadarnhau pwy oedd wedi cwyno.

"Beth oedd y rheswm am hynny? Sut helpodd hynny unrhyw un?

"Ac, mewn gwirionedd, rydyn ni mewn sefyllfa nawr lle nad yw'n ddiogel i ferched ddod ymlaen yng Nghymru.

"Mae'r bobl a wnaeth hyn wedi creu sefyllfa lle rydyn ni wedi mynd tuag yn ôl 30 mlynedd lle yn eu dicter, yn eu tymer, yr hyn maen nhw wedi'i wneud mewn gwirionedd yw ei gwneud hi'n llawer haws i ddynion aflonyddu menywod oherwydd ni fydd menywod yn dod ymlaen mwyach," ychwanegodd.

'Dilyn y drefn'

Yn dilyn y cwest i farwolaeth Carl Sargeant, fe ddaeth y Crwner John Gittins i'r casgliad o hunanladdiad a dywedodd y dylai mwy o gefnogaeth fod ar gael i weinidogion syn colli'u swyddi.

Dywedodd Carwyn Jones: "Rwy'n gwybod bod y crwner wedi dweud 'wel, dylid rhoi pethau ar waith' ond nid yw wedi dweud beth yn union.

"Felly, y cwestiwn yw, beth arall allwch chi ei wneud, mewn gwirionedd? Beth ydych chi'n ei wneud o dan yr amgylchiadau hynny?

"Rydych chi'n gofyn y cwestiynau hynny i chi'ch hun, wrth gwrs. Ond dyna beth rydw i wedi bod yn dadlau gyda'n hun - beth yn union y gellid fod wedi'i wneud yn wahanol?"

Fe lynodd wrth ei safbwynt ym mis Rhagfyr 2017 na allai fod wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol wrth drin yr honiadau - "Dilynais y drefn gywir y byddai unrhyw un wedi ei ddilyn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carwyn Jones nad oedd yn credu ei bod yn iawn iddo geisio cysylltu â theulu Carl Sargeant

Wrth gael ei herio ynghylch a oedd problem gyda'r drefn, dywedodd: "Beth sydd o'i le ar y broses? Rwy'n gwybod bod hwn yn drasiedi ond nid yw'n golygu bod y broses ei hun yn anghywir.

"Yn naturiol, rydych chi'n mynd trwy hyn trwy'r amser yn eich pen ac rydych chi'n dweud, 'wel, a ellid fod wedi gwneud hyn yn wahanol mewn rhyw ffordd' ond alla i ddim gweld sut."

Wrth ddod i'w dyfarniad i'r cwest, dywedodd y crwner oherwydd "digwyddiad bywyd" ynghyd â "phwysau" ei rôl fel gweinidog Llywodraeth Cymru, roedd Mr Sargeant wedi cael diagnosis o iselder yn 2012.

Dywedodd fod Carwyn Jones wedi bod yn ymwybodol o'r digwyddiad bywyd yn 2014, ond nad oedd yn cydnabod bod unrhyw faterion eraill, er gwaethaf iddo weithio'n agos gyda Mr Sargeant.

Dywedodd y crwner nad oedd unrhyw drefniadau swyddogol ar waith i gefnogi Mr Sargeant ar ôl iddo gael y sac "er gwaethaf y tebygolrwydd bod y prif weinidog yn gwybod am fregusrwydd Mr Sargeant o ran ei iechyd meddwl".

Wrth siarad â Sunday Supplement, dywedodd Carwyn Jones nad oedd "yn ymwybodol ei fod yn fregus mewn unrhyw ffordd" ac nad oedd ganddo unrhyw syniad "o gwbl" bod Carl Sargeant yn dioddef o iselder.

Cyhuddodd bargyfreithiwr teulu Carl Sargeant Mr Jones o ddweud celwydd o dan lw yn ystod cwest y crwner am natur y gefnogaeth yr oedd wedi gofyn i AC Llafur dros Ddyffryn Clwyd, Ann Jones roi i Carl Sargeant ar ôl ei ddiswyddo. Gwadodd Carwyn Jones y cyhuddiad.

'Erioed yn elyn'

Dywedodd y crwner fod Mr Jones wedi cywiro "yn gywir ac yn briodol" wybodaeth a roddodd o'r blaen, "er mai dim ond unwaith y daeth y gwir i'r amlwg yn rhinwedd y wybodaeth a ddarparwyd gan Ann Jones".

Pan ofynnwyd iddo pam y gwnaeth y camgymeriad am natur cefnogaeth Ann Jones, dywedodd y cyn-brif weinidog: "Oherwydd bod yn rhaid i mi ddweud ar y pryd fod popeth yn symud mor gyflym mae'n anodd iawn cofio pob manylyn ac mae'r un peth pan rydych chi yn rhoi tystiolaeth yn y llys. "

Yn ystod y cyfweliad, roedd gan Carwyn Jones neges i deulu Carl Sargeant: "Nid oeddwn erioed yn elyn i Carl ac nid fi yw eich gelyn chi. Roeddwn bob amser yn dod ymlaen yn dda iawn gyda Carl.

"Mae wedi bod yn hynod o anodd i chi, rwy'n deall hynny. Ac os bu amser erioed lle'r oeddem yn i eistedd i lawr, efallai, a sgwrsio trwy rai o'r materion, byddwn yn fwy na pharod i wneud hynny.

"Mae'r gost emosiynol wedi bod yn enfawr iddyn nhw, mae wedi bod yn anodd i bobl eraill. A oes ffordd y gallwn ni leihau'r gost honno yn y dyfodol?"

Dywedodd Mr Jones nad oedd yn credu ei bod yn iawn iddo geisio cysylltu â theulu Mr Sargeant "gyda'r cwest yn parhau ac mewn gwirionedd nid wyf yn credu y byddent wedi eisiau siarad â mi, a dweud y gwir, a dyna benderfyniad iddyn nhw."