Holl swyddogion Heddlu'r Gogledd i wisgo camera corff
- Cyhoeddwyd
Bydd pob swyddog Heddlu'r Gogledd yn gwisgo camera ar eu corff fel rhan o'u hoffer dydd i ddydd.
Ar hyn o bryd, dim ond swyddogion sydd ar y llinell flaen sy'n gwisgo'r camerâu, ond mae'r comisiynydd heddlu a throsedd am newid hynny.
Yn y mis nesaf, bydd 1,115 camera ar gael i aelodau o'r llu gyda'r cyfan yn costio £519,000.
Yn ôl y comisiynydd, Arfon Jones, bydd pob aelod o'r llu yn cael mynediad at gamera corff pan maen nhw'n gweithio.
Dywedodd fod y polisi fod swyddogion yn gwisgo'r camerâu wedi profi'n llwyddiannus wrth gasglu tystiolaeth gyda lleihad hefyd yn nifer y cwynion yn erbyn swyddogion.
"Maen nhw wedi bod yn llwyddiant gydag achosion trais yn y cartref.
"Mae swyddogion yn ei defnyddio nhw pan mae 'na ffrwgwd posib ar fin digwydd. Maen nhw'n troi'r camera ymlaen i osgoi unrhyw gwynion rhag cael eu cyflwyno."
Ar y llaw arall mae'r grŵp rhyddid dinesig, Liberty yn pryderu byddai'n arwain at fwy I "ymyrraeth."
"Mae camerâu cyrff yn cyfrannu at y cynnydd mewn gwyliadwriaeth dechnolegol gan yr heddlu, maen nhw'n gallu recordio pobl yn eu cartrefi ac mewn llefydd cyhoeddus," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2019
- Cyhoeddwyd8 Mai 2016