Galwad i ailystyried ffioedd parcio Ynys Lawd

  • Cyhoeddwyd
Ynys Lawd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ynys Lawd yn atyniad sy'n denu degau o filoedd o bobl pob blwyddyn

Mae pobl leol yng Nghaergybi wedi mynegi pryder am benderfyniad yr RSPB i gyflwyno ffioedd yn y meysydd parcio ger Ynys Lawd.

Mae'r atyniad, sy'n denu degau o filoedd pob blwyddyn, wedi cynnig llefydd parcio am ddim ers blynyddoedd, ond mae'r warchodfa adar bellach yn codi tâl am wneud hynny.

Yn ôl un cynghorydd lleol gall y ffioedd newydd olygu "na fydd pobl yn dod" dim mwy.

Wrth ymateb dywedodd yr RSPB fod y ffioedd o ganlyniad i "gyllid cyhoeddus yn lleihau".

'Trist'

Ers mis Ebrill eleni mae ymwelwyr wedi cael treulio'r ddwy awr gyntaf am ddim ac wedyn gorfod talu £2.50 yn ychwanegol.

Ond rhwng mis Mawrth a mis Hydref y flwyddyn nesaf bydd rhaid talu £2 am yr awr gyntaf ac yna £5 am weddill y dydd.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y ffioedd parcio newydd yn dod i rym y flwyddyn nesaf

Yn ôl Dafydd Rhys Thomas, Cynghorydd sir Ynys Cybi mae'r taliadau yn rhywbeth "trist"

"Mae'r tir wedi bod am ddim ers canrifoedd, ac i ddod â thollau fewn... dwi'm yn hapus.

"Mae'r effaith wedi dechrau yn barod - fydd pobl ddim yn caboli dŵad.

"Maen nhw (RSPB) yn gwario yma ond fydd y caffi ac ati yn dod ag incwm sylweddol i mewn.

"Does gennai ddim dadl efo'r bobl sy'n gweithio dim ond y mudiad mawr sydd wedi colli touch efo pobl leol," meddai.

'Llai o bres'

Wrth ymateb dywedodd y RSPB eu bod nhw'n derbyn llai o bres o'r "sector cyhoeddus" a'u bod eisiau parhau "i reoli gwarchodfeydd natur i'r safon ddisgwyliedig".

"Mae 'na staffio ac adnewyddu a neud yn siŵr fod yr atyniad yn un mae pawb yn mwynhau," meddai Bethan Lloyd o RSPB Cymru.

"Wrth gwrs mae'n destun sensitif. Ni yw'r cyntaf i ddeud ein bod heb wneud digon o ymgynghori ar y cychwyn, ond dwi'n gobeithio ein bod ni wedi gwneud digon i agor y sgyrsiau hynny rŵan."

Bydd y ffioedd newydd yn dod i rym y flwyddyn nesaf lle bydd disgwyl i holl waith adnewyddu fod wedi ei gwblhau.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dafydd Rhys Thomas, Cynghorydd sir Ynys Cybi mae'r tollau yn rhywbeth "trist"