Adam Price: 'Corbyn angen rhoi'r wlad cyn ei blaid'

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Corbyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jeremy Corbyn wedi gwahodd arweinwyr y gwrthbleidiau i'w gwrdd yn Llundain ddydd Mawrth

Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi galw ar arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn i "roi'r wlad cyn ei blaid" cyn trafodaethau trawsbleidiol er mwyn ceisio atal Brexit heb gytundeb.

Mae Mr Corbyn wedi gwahodd arweinwyr y gwrthbleidiau sydd yn erbyn gadael yr UE heb gytundeb i'w gwrdd yn Llundain ddydd Mawrth.

Mae disgwyl i gynrychiolwyr o Blaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol, yr SNP, y Gwyrddion a'r Grŵp Annibynnol fynychu.

Dywedodd Mr Corbyn ei fod yn gobeithio y gall y trafodaethau arwain at "drefniant gwaith da".

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhuddo arweinydd Llafur o geisio atal Brexit.

Pe bai Mr Corbyn yn ennill cais o ddiffyg hyder yn y Llywodraeth, mae wedi gofyn i bleidiau eraill helpu i'w osod fel prif weinidog dros dro fel y gallai alw etholiad cyffredinol ac oedi'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Llafur angen 'bod yn hyblyg'

Dywedodd Mr Price bod Plaid Cymru yn "barod i ystyried cefnogi Jeremy Corbyn" os mai dyna'r unig ffordd o osgoi "trychineb Brexit heb gytundeb".

"Yr hyn rydyn ni'n gofyn amdano yw i'r Blaid Lafur ddangos yr un hyblygrwydd," meddai.

"Os, er enghraifft, dyw hi ddim yn bosib i arweinydd Llafur gael y mwyafrif sydd ei angen yn Nhŷ'r Cyffredin, y byddan nhw yna'n barod i gefnogi ymgeisydd arall.

"Nid dyma'r amser i roi plaid cyn y wlad, ond rhoi'r wlad cyn y blaid."

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adam Price y byddai'n ystyried cefnogi Jeremy Corbyn i osgoi "trychineb Brexit heb gytundeb"

Dywedodd Mr Price bod angen "adeiladu pontydd, canfod consensws a chreu llwybr y gallwn ni oll ei gefnogi".

Ychwanegodd na fyddai etholiad cyffredinol yn "datrys unrhyw beth" pe na bai Llafur yn ymrwymo i ymgyrchu dros aros yn yr UE mewn unrhyw refferendwm arall.

Cwestiynu cefnogaeth i Corbyn

Dywedodd cadeirydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Cadan ap Tomos nad oes gan Mr Corbyn ddigon o gefnogaeth i fod yn brif weinidog dros dro.

"Rwy'n credu mai'r cwestiwn sydd angen iddo ofyn i'w hun yw beth sydd bwysicaf iddo: bod yn brif weinidog ynteu osgoi Brexit heb gytundeb?" meddai.

Ond dywedodd AS Llafur De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty mai Mr Corbyn "ddylai fod y person cyntaf i gael cyfle i ffurfio llywodraeth dros dro" am mai ef yw arweinydd yr wrthblaid.