Aaron Ramsey ddim ar gael i herio Azerbaijan a Belarws

  • Cyhoeddwyd
Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ramsey wedi chwarae mewn un gêm gyfeillgar i'w glwb newydd ers ymuno yn yr haf

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau fod Aaron Ramsey wedi tynnu yn ôl o'r garfan fydd yn herio Azerbaijan a Belarws fis nesaf.

Nid yw Ramsey, 28, wedi chwarae unrhyw ran yn ymgyrch Cymru i gyrraedd Euro 2020 hyd yma oherwydd anafiadau.

Nid oedd chwaith yn rhan o garfan Juventus ar gyfer eu gêm agoriadol nhw dros y penwythnos.

Daeth cadarnhad hefyd bod chwaraewr canol cae Manchester United, Dylan Levitt wedi cael ei alw i'r garfan yn ei le.

Cafodd y garfan ei gyhoeddi gan reolwr Cymru, Ryan Giggs mewn cynhadledd i'r wasg yn Llangrannog ddydd Mercher.

Bydd tîm Giggs yn herio Azerbaijan yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 6 Medi cyn wynebu Belarus mewn gêm gyfeillgar ar nos Fawrth 9 Medi.