Giggs yn cyhoeddi'r garfan i herio Azerbaijan a Belarws

  • Cyhoeddwyd
Ashley WilliamsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ashley Williams wedi bod heb glwb ers cael ei ryddhau gan Stoke yn yr haf

Mae Ryan Giggs wedi cyhoeddi'r garfan fydd yn herio Azerbaijan a Belarws fis nesaf, gyda dim lle i'r capten Ashley Williams.

Mae'r amddiffynnwr 34 oed, sydd â 86 cap dros Gymru, wedi bod heb glwb ers cael ei ryddhau gan Everton ym mis Mehefin.

Roedd wedi bod ar fenthyg gyda Stoke y tymor diwethaf, ac mae adroddiadau'r wythnos hon ei fod ar fin ymuno â Bristol City yn y Bencampwriaeth.

Mae'r enwau mawr eraill fel Aaron Ramsey, Gareth Bale a Ben Davies oll yn rhan o'r garfan o 26.

Un enw newydd

Un enw sydd yn y garfan am y tro cyntaf, sef y chwaraewr canol cae Joe Morrell, 22, sy'n chwarae i Lincoln yn Adran Un, ar fenthyg o Bristol City.

Mae dau chwaraewr arall allai ennill eu capiau rhyngwladol cyntaf, sef yr amddiffynnwr Joe Rodon a'r ymosodwr Kieffer Moore.

Un arall sydd ddim yn y garfan ydy asgellwr Schalke, Rabbi Matondo, a hynny oherwydd anaf.

Fe wnaeth Giggs hefyd gadarnhau bod amddiffynnwr Newcastle, Paul Dummett, wedi dweud am yr eildro nad yw am chwarae dros Gymru mwyach.

"Dwi'n meddwl mai dyna ni efo fo," meddai Giggs pan ofynnwyd iddo ai dyna ddiwedd gyrfa ryngwladol Dummett.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Joe Morrell yw'r unig chwaraewr sydd yn y garfan am y tro cyntaf

Wrth siarad yn ei gynhadledd i'r wasg yn Llangrannog ddydd Mercher, ychwanegodd y rheolwr nad oedd y penderfyniad i adael Ashley Williams allan yn un hawdd.

"Mae gennym ni chwaraewyr sydd yn chwarae, yn enwedig yn ei safle fe. Felly dwi ddim ond yn bod yn deg i'r chwaraewyr hynny," meddai.

"Fe yw'r capten o hyd ac os yw'n chwarae gemau, fe fydd e dal yn rhan o bethau."

Bydd Cymru'n croesawu Azerbaijan i Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Wener 6 Medi fel rhan o'u hymgyrch i gyrraedd Euro 2020.

Fe fydd tîm Giggs yna'n herio Belarws mewn gêm gyfeillgar yn yr un stadiwm nos Lun, 10 Medi.

Ar ôl dechrau da i'r ymgyrch gyda buddugoliaeth yn erbyn Slofacia, daeth dau ganlyniad siomedig ym mis Mehefin wrth i'r tîm golli oddi cartref yn Croatia a Hwngari.

Y garfan yn llawn

Gôl-geidwaid

Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Caerlŷr), Adam Davies (Stoke)

Amddiffynwyr

Chris Gunter (Reading), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Neil Taylor (Aston Villa), Connor Roberts (Abertawe), Ethan Ampadu (Leipzig - ar fenthyg o Chelsea), Chris Mepham (Bournemouth), Tom Lockyer (Charlton), James Lawrence (Anderlecht), Joe Rodon (Abertawe).

Canol cae

Aaron Ramsey (Juventus), Joe Allen (Stoke), Jonny Williams (Charlton), Harry Wilson (Bournemouth - ar fenthyg o Lerpwl), Matthew Smith (Queens Park Rangers - ar fenthyg o Manchester City), Daniel James (Manchester United), Will Vaulks (Caerdydd), Joe Morrell (Lincoln - ar fenthyg o Bristol City).

Ymosodwyr

Gareth Bale (Real Madrid), Sam Vokes (Stoke), Tom Lawrence (Derby County), Ben Woodburn (Oxford United - ar fenthyg o Lerpwl), Ryan Hedges (Aberdeen), Kieffer Moore (Wigan).