Y ferch 15 oed yng ngharfan Cymru

  • Cyhoeddwyd
carrieFfynhonnell y llun, David Rawcliffe

Dydd Iau 29 Awst bydd tîm pêl-droed merched Cymru yn teithio i Tórshavn i wynebu Ynysoedd Ffaroe, cyn wynebu Gogledd Iwerddon yng Nghasnewydd ar 3 Medi.

Ymysg 22 aelod y garfan ar gyfer y gemau yma mae Carrie Jones o'r Drenewydd, sy'n 15 mlwydd oed.

Yn ôl y rheolau gan ei bod hi mor ifanc dydi Carrie ddim yn cael chwarae dros ei chlwb newydd, Caerdydd, nes iddi gael ei phen-blwydd yn 16 ar 4 Medi.

"Dwi newydd arwyddo dros Gaerdydd, ond dwi ddim yn cael chwarae dros y clwb tan fy mhen-blwydd, ond dwi yn y garfan genedlaethol gan fy mod wedi cyrraedd oed lle ga'i chwarae iddyn nhw- mae'n wallgo." meddai Carrie.

"Pwy a ŵyr efallai gallai chwarae dros Gymru cyn chwarae dros fy nghlwb."

Dechrau chwarae pêl-droed

Mae wedi bod yn freuddwyd gan Carrie i chwarae dros Gymru ers oedd hi'n saith oed.

"Wnes i ddechrau chwarae yn 7 oed, pan nes i ymuno a thîm bechgyn. Mae gen i gefndryd hŷn sy'n gefnogwyr pêl-droed mawr. Oedden ni'n arfer mynd i fferm fy nain a chwarae pêl-droed yn y caeau. Wedyn roedden ni'n chwarae pump bob ochr efo'r teulu a fe wnaeth ddatblygu o fan'na.

Ffynhonnell y llun, Joyce Jones
Disgrifiad o’r llun,

Carrie ar ddechrau ei gyrfa pêl-droed

"Daeth 'na reol lle o'n i ddim yn cael chwarae mewn tîm bechgyn tan oni'n 12, felly nes i symud i dîm merched, ac wedyn 'nôl i dîm bechgyn - mae 'di bod yn dipyn y siwrne i gyrraedd yma."

"Oni'n chwarae i'r Newtown White Stars, a'r tymor diwethaf o'n i efo tîm bechygn Aberriw. Eleni dwi efo Dinas Caerdydd, sy'n dipyn o newid. "

Rhan o'r garfan

"Dwi yn y garfan perfformio (performance squad) ar hyn o bryd, felly dwi wedi hyfforddi gyda rhai chwaraewyr sydd 'di bod yn y brif garfan, fel Nadia Lawrence a Kylie Nolan.

"Dwi wedi bod yn ymarfer gyda nhw yn wythnosol, mae wedi bod yn wych. Yn y camps hefyd mae wedi bod yn grêt dysgu gan y chwaraewyr profiadol i weld sut allai ddatblygu i fod yn well chwaraewr. "

Mae Carrie hefyd yn ceisio dod i'r arfer o chwarae ochr yn ochr gyda rhai o enwau mawr y garfan fel Jess Fishlock a Sophie Ingle.

Ffynhonnell y llun, David Rawcliffe
Disgrifiad o’r llun,

Carrie'n ymarfer â'r garfan genedlaethol

"Mae'n wallgo' achos o'n i yn yr ystafell newid cyn y gêm Rwsia, ac mae wedi bod yn freuddwyd i mi fod yn y garfan ers yn blentyn ifanc. Roedd Jess Fishlock yn eistedd gyferbyn i mi yn y stafell newyddion ac o'n i'n meddwl 'wow'…

"Ges i fy ngalw i'r tîm dan 15, ond roeddwn i flwyddyn yn iau na'r oedran arferol ar gyfer y tîm, ac wedyn cefais alwad ar gyfer y tîm dan 17, ac yna datblygu drwy'r oedran gwahanol i le ydw'i nawr - sy'n anhygoel."

Cafodd Carrie rhywfaint o gyngor gan y chwaraewyr profiadol: "Jest i fwynhau'r profiad i ddweud gwir- ar y cae ac oddi arno. Nid pob chwaraewr fydd yn cael y cyfle i fod efo'r brif garfan tra mor ifanc. Ac mae 'na'r agweddau tactegol ar y cae hefyd, felly angen dysgu ganddyn nhw."

Felly sut wnaeth Carrie glywed y newyddion ei bod yn y garfan?

"Roeddwn i ar y ffordd 'nol o Gaerdydd gyda mam. Fe wnaeth hi ddweud mod i wedi ei wneud o mewn i'r garfan- doeddwn i'n methu coelio'r peth i ddechrau. Mae'r foment mor sbeshial wrth feddwl am yr holl waith caled dwi 'di rhoi fewn iddo."

Disgrifiad o’r llun,

Wrth dyfu fyny roedd Carrie'n chwarae gyda, ac yn erbyn merched a bechgyn

Mynd yn ôl i'r ysgol

"Dwi'n meddwl y bydd fy nghyd-ddisgyblion yn gwybod, gan fod y BBC am fod yn darlledu'r gêm, ond dwi ddim yn gwybod yn iawn pryd fydda i'n mynd nôl i'r ysgol i fod onest achos mae gen i gêm Caerdydd ar yr ail ddiwrnod dwi nôl - mi fydda i'n colli'r diwrnod cyntaf o'r ysgol.

"Dwi wedi methu lot o ysgol drwy fod yn y camps ac ati, a'r holl ymarfer hefyd - dwi'n byw 2 awr i ffwrdd o'r cae hyfforddi ar y funud, ac felly mae rhaid gadael ysgol yn fuan ac mae dal fyny efo'r gwersi yn gallu bod yn anodd, ond mae'r athrawon yn gefnogol."

"Dwi'n hyfforddi ym Mhrifysgol De Cymru gyda'r ganolfan perfformio a Chaerdydd, a dwi'n byw tu allan i'r Drenewydd. Mam di'r gyrrwr tacsi, felly mae 'na ddiolch mawr yn mynd iddi hi!

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carrie wedi cynrychioli Cymru mewn carfanau iau yn barod, ond yn goebeithio y daw cap gyda'r tîm cyntaf yn fuan

"Mae Mam yn mynd â fi ddwywaith yr wythnos i ymarfer, dydd Mawrth a dydd Gwener, gyda gemau ar Ddydd Sul sy'n gallu bod yn unrhywle - o'n i yn Llundain wythnos diwethaf.

"Mae'r teithio yn anodd, achos nes i symud ysgol er mwyn bod yn agosach i gartref felly dwi mewn ysgol Saesneg nawr, ond dal yn cael gwersi Cymraeg- roeddwn i yn y ffrwd Gymraeg yn fy hen ysgol."

Dathlu?

"Dwi heb ddathlu eto i ddweud gwir gan fod hi'n ben-blwydd ar fy nhad ar y diwrnod y byddaf yn gadael efo'r garfan, felly mae'n siŵr awn ni am bryd o fwyd teuluol cyn fi fynd."

Ffynhonnell y llun, Joyce Jones
Disgrifiad o’r llun,

Carrie gyda chriw o ffrindiau pan oedd hi ym mlwyddyn 7 yn Ysgol Uwchradd Caereinion

Hefyd o ddiddordeb: