'Rhaid ymestyn dyddiad cau nawdd i ddiogelu addoldai'

  • Cyhoeddwyd
Graffiti asgell dde eithafol yn GrangetownFfynhonnell y llun, Twitter / @GregPycroft
Disgrifiad o’r llun,

Graffiti asgell dde eithafol wedi'i baentio ar adeiladau yn Grangetown, Caerdydd yn 2018

Dylid ymestyn y dyddiad cau i fosgiau ac eglwysi allu gwneud cais am gyllid i wella diogelwch er mwyn atal troseddau casineb, meddai AS o Gymru.

Mae'r Swyddfa Gartref wedi cynnig ariannu 80% o'r gwelliannau ar gyfer addoldai bregus yn sgil ymosodiad ar fosg yn Christchurch, Seland Newydd.

Ond mae AS Llafur De Caerdydd a Penarth, Stephen Doughty, yn dweud nad yw rhai mosgiau yn y brifddinas yn ymwybodol o'r grant.

Dywedodd y Swyddfa Gartref bod addoldai wedi cael gwybod am y cynllun grant "mewn sawl ffordd", ac mae Heddlu De Cymru'n dweud eu bod wedi asesu 11 sefydliad sy'n ceisio am gyllid.

Dywedodd Mr Doughty ei fod wedi siarad â chynrychiolwyr un mosg yn ystod y penwythnos diwethaf a fyddai'n "croesawu'r cyllid" ar gyfer gwelliannau i ddiogelwch adeiladau ac i dderbyn hyfforddiant.

"Rhaid i ni sicrhau bod ein holl addoldai yn ddiogel o ystyried rhai o'r digwyddiadau erchyll rydyn ni wedi'u gweld yn rhyngwladol," meddai.

Cododd troseddau casineb â chymhelliant crefyddol 40% ledled Cymru a Lloegr rhwng 2016-17 a 2017-18, yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Gartref.

Roedd dros hanner yr achosion - 52% - wedi eu hanelu at Fwslimiaid.

'Teimlo'n bryderus'

Dywedodd Arooj Khan, 24, o Gaerdydd, fod rhai mosgiau yn y ddinas eisoes wedi gwella diogelwch, gyda gwirfoddolwyr hyd yn oed ar wyliadwraeth y tu allan tra bod pobl y tu mewn yn gweddïo.

"Rwy'n teimlo'n bryderus, yn enwedig yn ystod mis Ramadan pan fyddwn ni'n gweddïo am gyfnod da, tua dwy awr yn y nos rhwng tua 10pm ac 1am," meddai.

"Y broblem gyda hynny yw eich bod chi eisiau canolbwyntio ar weddïo ond mae gennych chi'r meddyliau hyn yn rhedeg trwy'ch pen y bydd rhywun efallai'n cerdded i mewn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Arooj Khan wedi gweld newid mewn ymddygiad pobl tuag ati hi a'i chrefydd

Hyd yn hyn eleni, mae Heddlu De Cymru wedi cofnodi pum digwyddiad o droseddau casineb crefyddol neu hiliol mewn addoldai.

Yn 2018-19, cofnododd yr heddlu 11 digwyddiad, i fyny o bump yn 2017-18.

Yn ystod y tair blynedd diwethaf, cofnododd Heddlu Dyfed-Powys saith trosedd casineb mewn addoldai.

Nid yw Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Gwent wedi gallu rhoi ffigyrau.

Ymestyn y dyddiad cau

Mae Mr Doughty, sy'n aelod o'r Pwyllgor Dethol Materion Cartref, eisiau i'r dyddiad cau i sefydliadau wneud cais am grantiau gael ei ymestyn y tu hwnt i 31 Awst.

"Yn amlwg mae yna gwestiwn ynglŷn â sut mae'r wybodaeth yn cael ei chyfleu i sefydliadau llawr gwlad," meddai.

"Yn rhy aml o lawer rydych chi'n gweld adrannau'r llywodraeth yn gwneud cyhoeddiadau mawr ac, mewn gwirionedd, dyw sefydliadau lleol - yn yr achos hwn addoldai lleol - ddim yn gwybod amdano."

Dywedodd y Swyddfa Gartref ei bod wedi rhoi cyhoeddusrwydd i'r grant trwy ymgyrch genedlaethol ar gyfer taflenni, adroddiadau cyfryngau a heddluoedd lleol.