Cadw yn croesawu ymwelwyr i henebion Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd Cadw - gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru - yn lansio Drysau Agored 2019 ddydd Iau er mwyn croesawu ymwelwyr i adeiladau hanesyddol y wlad.
Bydd y lansiad swyddogol yn Abaty a Phorthdy Nedd ger Castell-nedd.
Dros y mis nesaf fe fydd Cadw'n agor eu drysau i nifer fawr o henebion Cymru.
Mae hyn yn rhan o ymgyrch dwristiaeth Blwyddyn Darganfod Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019.
Bydd y rhaglen yn cynnig mynediad i nifer o safleoedd sydd fel arfer ar gau i'r cyhoedd, ac fe fydd teithiau tywys yn cael eu cynnig hefyd ar nifer o safleoedd ar draws y wlad.
Bydd y safleoedd canlynol yn cael eu hagor i'r cyhoedd:
7-8 Medi:
Neuadd Ganoloesol Hafoty
Castell Dolforwyn
Castell Oxwich
Gwaith Haearn Blaenafon
Castell Cydweli
Caer Rufeinig Segontium
Ffynnon Gwenffrewi
14-15 Medi:
Castell Cas-gwent
Castell y Bere
Abaty Ystrad Fflur
Taith y 3 Chastell:Grosmont, Skenfrith, Castell Gwyn
21-22 Medi:
Neuadd Ganoloesol Hafoty
Barclodiad-y-Gawres
Llys a Chastell Tretŵr
Castell Talacharn
Baddonau Rhufeinig Caerllion
Amffitheatr Caerllion
Cae'r Gors
28-29 Medi:
Llys yr Esgob Tyddewi
Capel y Rug
Castell Dinbych
Eglwys Llangar
Abaty Glyn y Groes
Castell Rhuddlan
Castell Cricieth
Castell Harlech
Abaty a Gwaith Haearn Nedd
Priordy Ewenni
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2019