Arestio dyn mewn cysylltiad â dau ladrad yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Heddlu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd swyddogion eu galw i Stryd Rhydychen yn gyntaf am 09:10 fore Sadwrn i adroddiadau o ladrad arfog

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau eu bod wedi arestio dyn 38 oed mewn cysylltiad â dau ladrad yn Abertawe ddydd Sadwrn.

Cafodd swyddogion eu galw i Stryd Rhydychen yn gyntaf am 09:10 wedi adroddiadau o ladrad arfog.

Fe gafodd un dyn ei gludo i'r ysbyty ar ôl cael ei fygwth gan ddyn wnaeth ffoi gyda bocs llawn arian.

Roedd yr ail ddigwyddiad yn siop Londis ar Stryd Norfolk tua 09:12. Fe adawodd un dyn yn waglaw.

Mae'r dyn sydd wedi ei arestio yn parhau yn y ddalfa, ac mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 gan nodi cyfeirnod 1900312232.