Galw am roi cynllun hirdymor mewn lle i gefnogi ynni hydro

  • Cyhoeddwyd
Ynni hydro
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynlluniau ynni hydro cymunedol yn cael cymorth gan Lywodraeth Cymru gyda'u cyfraddau busnes

Bydd canlyniadau "difrifol" os na fydd gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i gefnogi cynlluniau ynni hydro mewn lle erbyn dechrau'r flwyddyn nesaf, yn ôl Cymdeithas Ynni Hydro Prydain.

Ar hyn o bryd mae cynlluniau o'r fath yn gallu cael cymorth i dalu cyfraddau busnes, ond dim ond nes mis Mawrth 2020 mae hynny ar gael.

Rhybuddiodd prif weithredwr Cymdeithas Ynni Hydro Prydain, Simon Hamlyn, y gallai newid i'r system gynyddu costau i gynlluniau hydro ac y gallai rhai gau yn llwyr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod wedi cefnogi'r sector ers degawd trwy roi cymorth i brosiectau cymunedol gyda'u cyfraddau busnes.

'Anodd cynllunio'

Dywedodd Mr Hamlyn nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer y sector, er ei fod wedi cynnal arolwg ar y pwnc y llynedd.

Ar hyn o bryd mae cynlluniau ynni hydro yn cael gwybod yn flynyddol faint o arian grant y byddan nhw'n ei dderbyn er mwyn helpu â chyfraddau busnes.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Keith Jones bod y system bresennol yn ei gwneud yn anodd cynllunio ar gyfer y dyfodol

Mae cynllun hydro cymunedol Ynni Padarn Peris yn Llanberis yn cynhyrchu pŵer ar gyfer tua 100 o gartrefi.

"Pob blwyddyn rydyn ni'n darganfod os ydyn ni'n cael help - dyw hynny ddim yn ffordd o gynllunio ar gyfer y dyfodol," meddai cyfarwyddwr y prosiect, Keith Jones.

"Rydyn ni'n cael gwybod pob blwyddyn pan ddaw, ond ar gyfer unrhyw gwmni sydd eisiau edrych i'r dyfodol, mae'n anodd."

"Mae gennym ni brosiectau eraill ar y gweill ond dydyn ni ddim yn gwybod os fyddwn ni'n gallu eu gwneud nhw am nad ydyn ni'n gwybod be' sy'n digwydd efo'r cyfraddau busnes."

Disgrifiad,

Dywedodd Meleri Davies bod angen lleihau treth i fudiadau sydd â budd cymunedol

Ychydig filltiroedd i ffwrdd ym Methesda mae Ynni Ogwen yn rhannu'r pryder, gan ddweud bod angen rhagor o gymorth ar gynlluniau hydro cymunedol.

"O ran cyfraddau busnes mae'n bwysig ein bod yn cael gostyngiad," meddai un o'r cyfarwyddwyr, Meleri Davies.

"Mae ein helw yn cael ei ailfuddsoddi yn ein cymuned, felly 'da ni'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n ymyrryd a rhoi cymorth i ni, fel maen nhw wedi bod yn gwneud am y ddwy flynedd ddiwethaf."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi cefnogi'r sector ynni cymunedol am y 10 mlynedd diwethaf".

Ychwanegodd, tra bo clymblaid y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ei gwneud yn anoddach i gynhyrchwyr bychan, bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cefnogaeth i'r sector trwy helpu gyda chyfraddau busnes.

"Mae hyn oherwydd ein bod yn gweld budd yn y cyfraniad pwysig maen nhw'n ei wneud wrth wneud Cymru'n wlad carbon isel, yn ogystal â'r buddiannau eraill mae'r prosiectau hyn yn ei ddarparu," meddai.