Arestio pumed person wedi marwolaeth Harry Baker, 17

  • Cyhoeddwyd
Harry BakerFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Harry Baker wedi ei ddisgrifio fel "mab a brawd arbennig"

Mae pumed person wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth bachgen 17 oed yn Y Barri.

Cafodd corff Harry Baker, 17 oed o Gaerdydd, ei ddarganfod gan swyddogion ar Ffordd Wimborne yn Y Barri am tua 05:50 ddydd Mercher.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod dyn 32 oed o Gaerdydd wedi ei arestio a'i gadw yn y ddalfa.

Daw hynny ar ôl i dri dyn, 33, 36 a 47 oed o'r Barri, a dynes 38 oed o Sir Gaerfyrddin, gael eu harestio ddydd Iau.

Mae'r heddlu yn parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark O'Shea: "Rydyn ni'n apelio ar unrhyw un allai fod wedi gweld neu glywed ffrae yn ardal Heol Caerdydd a Ffordd y Mileniwm yn Y Barri, rhywbryd rhwng hanner nos ac 01:00 ddydd Mercher, 28 Awst, i gysylltu â ni."

Ddydd Iau, fe wnaeth teulu Harry Baker roi teyrnged iddo, gan ddweud na fyddai "bywyd byth yr un peth ar ôl ei golli".