Marwolaeth Sgiwen: Cyhuddo dau lanc 16 oed

  • Cyhoeddwyd
Smiths Arms, Mynachlog Nedd
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw bod yr ymosodiad wedi digwydd ger tafarn y Smiths Arms, Mynachlog Nedd

Mae dau lanc wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 58 oed yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Bu farw Mark Winchcombe o ganlyniad i'w anafiadau wedi ymosodiad tua 00:55 fore Sul ar Main Road, Mynachlog Nedd yn Sgiwen.

Mae llanc 16 oed wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad ac affrae, a llanc arall 16 oed yn wynebu cyhuddiad o affrae.

Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu cyn ymddangos yn Llys Ieuenctid Abertawe ar 19 Medi.

Mae pedwar arall, dau yn 16 a dau yn 14 oed, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Dywedodd Heddlu'r De eu bod yn dal i apelio am wybodaeth am y digwyddiad gan ofyn i bobl ffonio 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 1900322546.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mark Winchcombe o'i anafiadau

Teyrnged

Yn y cyfamser mae gwraig Mr Winchcombe, Christine, wedi rhoi teyrnged iddo, gan ddweud:

"Ry'n ni wedi chwalu gan golli Mark. Roedd yn ŵr, mab, brawd a thad cariadus.

"Roedd yn uchel ei barch yn y gymuned, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu geiriau caredig a'u cefnogaeth anferth.

"Roedd Mark yn gymeriad bywiog oedd â gwên ar ei wyneb bob tro.

"Mae ei farwolaeth wedi gadael bwlch mawr yn ein calonnau, ac ni fydd bywyd yr un fath hebddo."