O ble mae chwaraewyr carfan rygbi Cymru yn dod?

  • Cyhoeddwyd
Map o glybiau chwaraewyr Cymru a llun o'r chwaraewyrFfynhonnell y llun, BBC/Reuters

I gyd-fynd â chyhoeddi carfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd mae Undeb Rygbi Cymru wedi rhannu fideo, dolen allanol yn dangos gwreiddiau'r chwaraewyr yn eu clybiau cymunedol.

Ar ôl gweld y fideo mae Cymru Fyw wedi creu map sy'n dangos pa ardaloedd yng Nghymru sydd wedi cynhyrchu chwaraewyr y garfan.

Mae'r map yn dangos pa mor gynhyrchiol yw rhai ardaloedd yn ne Cymru gyda chlystyrau yn Sir Gaerfyrddin, y cymoedd uwchben Abertawe a chymoedd ôl-ddiwydiannol y de-ddwyrain.

Daw tri chwaraewr o glwb Hendygwyn-ar-dâf (Whitland RFC), Sir Gaerfyrddin, sef y brodyr Jonathan a James Davies a'r mewnwr Aled Jones.

Mae clwb Gorseinon hefyd wedi magu dau o gicwyr mwyaf cynhyrchiol Cymru, Dan Biggar a Leigh Halfpenny.

Ond George North yw'r unig chwaraewr o ogledd Cymru - gyda chlwb Llangefni yn gynrychiolydd unig draw yn Sir Fôn.

Felly pam bod rhai ardaloedd mor llwyddiannus wrth greu chwaraewyr rhyngwladol?

'Brawdoliaeth' diwydiannau'r de

Mae poblogrwydd rygbi yn y de yn mynd nôl at y cyfnod pan oedd y diwydiannau trwm, y glofeydd a'r gweithfeydd haearn, yng nghymoedd y de meddai'r sylwebydd a'r darlledwr, Huw Llywelyn Davies.

"Roedd y gwaith yn magu rhyw frawdoliaeth eitha' macho lle roedd pawb yn dibynnu ar ei gilydd, yn cydweithio a chyd-dynnu," meddai Mr Davies

"Roedd yn waith corfforol, felly roedd gêm gorfforol yn siwtio'r bobl hynny yn enwedig y bois oedd yn chwarae yn y pac, y blaenwyr, oherwydd eu nerth corfforol.

"Felly does dim syndod mai yng nghymoedd diwydiannol y de roedd canolbwynt y gêm rygbi.

"Rwy'n cyffredinoli wrth gwrs ac mae tipyn o eithriadau ond roedd bywyd y pentrefi yn y cyfnod hwnnw yn troi o gwmpas y capel, y clwb rygbi a'r dafarn.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gwaith dynion yn y cymoedd diwydiannol yn creu brawdoliaeth oedd yn parhau ar y caeau chwarae, meddai Huw Llywelyn Davies

"Ar ôl gweithio mewn llefydd cyfyng, swnllyd, brwnt ar b'nawn Sadwrn roedd yn rhyw fath o ollyngdod i'r dynion fynd mas i gael awyr iach i gael gwared ag unrhyw rhwystredigaethau oedd yn perthyn iddyn nhw ac hefyd i fwynhau.

"Ond eto, roedd y frawdoliaeth yna oedd yn amlwg yn eu gwaith bob dydd yn cael ei ddangos ar y cae hefyd.

"Mae'n wir am bêl-droed hefyd ond nid i'r un graddau o ran yr agwedd gorfforol.

"Er bod y diwydiannau trwm yna wedi diflannu bellach dwi'n credu bod y traddodiad yn parhau ac felly bod y cymoedd diwydiannol yn dal yn gadarnle i'r gêm yn fwy falle na'r ardaloedd cefn gwlad."

Y ffatri 'outside-half'

Yn y saithdegau, fe ganodd Max Boyce am y ffatri maswyr oedd yng nghymoedd y de yn ei gân The Outside-Half Factory, sy'n adlewyrchu traddodiad rygbi rhyfeddol yr ardaloedd hyn.

"Cwm Gwendraeth oedd canolbwynt cân Max Boyce a mae na draddodiad fan'ny yn mynd nôl at Carwyn James, Barry John, Jonathan Davies, Gareth Davies - maen nhw i gyd yn dod o'r un cwm, sy'n rhyfeddol gan mai cwm bach yw e," meddai Huw Llywelyn Davies.

"Y gân arall enwog oedd gan Max Boyce yn y saithdegau oedd y Pontypool Front Row.

Ffynhonnell y llun, Allsport UK/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pont-y-pŵl yn chwarae yn erbyn Awstralia yn 1984; fe gollon nhw o 18-24

"Charlie Faulkner, Bobby Windsor, Grahame Price, i gyd yn dod o gymoedd Gwent ac yn ffigyrau eiconig ac yn gymeriadau.

"Ond fe ddaeth na reng flaen arall â llawn gymaint o gymeriad - tri ffarmwr o ardal Crymych, Brian Williams, Kevin Phillips a John Davies, a falle bod hyn yn adlewyrchu dipyn bach o shifft - achos erbyn hynny roedd y gweithfeydd trwm yn dechrau diflannu.

"Felly roedd gennych chi dri ffarmwr ond unwaith eto, bois oedd yn ymwneud â gwaith corfforol."

Mae gwreiddiau'r gêm ddwfn yn y gorllewin meddai'r hanesydd rygbi, Wyn Thomas: "Ar feysydd Coleg Llambed ac yn unol â rheolau ysgol fonedd Rugby y gwelwyd y gêm gyntaf o rygbi yn cael ei chwarae yng Nghymru," meddai mewn erthygl am hanes rygbi Cymru.

"Ond mae rhai yn barod i gredu fod rhyw lun ar 'rygbi', sef y 'Cnapan' yn bodoli yng nghefn gwlad gorllewin Cymru cyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg."

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Sir Gaerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Llun gan J. E Lloyd o sgrym ar gae rygbi anwastad ar gyrion Caerfyrddin ar ddechrau'r 20fed Ganrif

Yn y saithdegau meddai Huw Llywelyn Davies, roedd yr olwyr, fel Gareth Edwards, Barry John, Gerald Davies a Ray Gravell o'r gorllewin tra bod y blaenwyr yn tueddu i fod yn fwy tebygol o ddod o'r dwyrain.

Er mor brin yw chwaraewyr rhyngwladol o'r gogledd mae George North yn dilyn patrwm cyfarwydd o chwaraewyr fel Dewi Bebb, Arthur Emyr a Robin McBryde, o'r naill ochr i Bont Menai meddai Mr Davies.

Daw tri o chwaraewr cenedlaethol o'r tu allan i Gymru. Mewn clybiau cymunedol yn Lloegr chwaraeodd Jake Ball (Camberley, Surrey) a Thomas Francis (Malton) am y tro cyntaf.

A byddai angen i'n map fod dipyn yn fwy er mwyn cynnwys clwb cyntaf Hadleigh Parkes, ddaw yn wreiddiol o Seland Newydd! Mae'n gymwys i chwarae i Gymru gan ei fod wedi byw yma ers dros dair blynedd.

Dyma'r rhestr yn llawn:

  • Adam Beard - Birchgrove

  • Jake Ball - Camberley

  • Cory Hill - Pontypridd

  • Rhys Carré - St Joseph's

  • Dillon Lewis - Beddau

  • Alun Wyn Jones - Bonymaen

  • Josh Navidi - Bridgend Athletic

  • Owen Watkin - Bryncethin

  • Ryan Elias - Carmarthen Athletic

  • Ken Owens - Carmarthen Athletic

  • Gareth Davies - Castell Newydd Emlyn

  • George North - Llangefni

  • Aaron Shingler - Yr Hendy

  • Rhys Patchell - CRICC

  • Dan Biggar - Gorseinon

  • Leigh Halfpenny - Gorseinon

  • Hadleigh Parkes - Hunterville

  • Wyn Jones - Llanymddyfri

  • Thomas Francis - Malton and Norton

  • Hallam Amos - Mynwy

  • Ross Morriarty - Treforys

  • Elliot Dee - Trecelyn

  • Justin Tipuric - Trebanos

  • Tomos Williams - Treorci

  • Liam Williams - Waunarlwydd

  • Nicky Smith - Waunarlwydd

  • Aaron Wainwright - Whitehead

  • Aled Davies - Hendygwyn-ar-dâf

  • James Davies - Hendygwyn-ar-dâf

  • Jonathan Davies - Hendygwyn-ar-dâf

  • Josh Adams - Yr Hendy

Hefyd o ddiddordeb: