Gatland yn dewis 15 cryf wrth i Gymru herio Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Wyn Jones yn dychwelyd fel capten ar gyfer y gêm yn Nulyn

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi ei dîm ar gyfer y gêm baratoadol olaf cyn Cwpan Rygbi'r Byd yn erbyn Iwerddon yn Nulyn.

Mae wedi dewis tîm cryf, gyda Rhys Patchell yn dechrau fel maswr a Tomos Williams yn fewnwr.

Bydd yr olwyr eraill - Leigh Halfpenny, George North, Josh Adams, Hadleigh Parkes a Jonathan Davies - yn sicr o ennyn parch y Gwyddelod.

Mae Alun Wyn Jones yn dychwelyd fel capten, gyda Josh Navidi ar y fainc.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhys Patchell fydd yn dechrau fel maswr ar ôl creu argraff y penwythnos diwethaf

Dyma fydd cyfle olaf Gatland i weld ei garfan yn chwarae gêm gystadleuol cyn iddyn nhw deithio i Japan ar gyfer Cwpan y Byd.

Fe fydd eu gêm gyntaf yno yn erbyn Georgia ar ddydd Llun, 23 Medi.

Gyda chymaint o'i brif chwaraewyr yn dechrau yn erbyn Iwerddon, un o'i obeithion pennaf yw na fydd unrhyw un yn cael anaf yn y gêm.

Tîm Cymru

Leigh Halfpenny; George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Rhys Patchell, Tomos Williams; Wyn Jones, Elliot Dee, Tomas Francis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (C), Aaron Wainwright, Justin Tipuric, Ross Moriarty.

Eilyddion: Ken Owens, Nicky Smith, Dillon Lewis, Adam Beard, Josh Navidi, Gareth Davies, Dan Biggar, Liam Williams.