Cymru'n trechu Lloegr o 13-6 yn Stadiwm Principality

  • Cyhoeddwyd
George North ac Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Cymru ar frig rhestr detholion y byd am y tro cyntaf yn dilyn buddugoliaeth o 13-6 yn erbyn Lloegr yn Stadiwm Principality.

Yn dilyn colled siomedig i'r Saeson yn Twickenham wythnos ddiwethaf roedd hi'n bwysig bod Cymru'n taro 'nol gyda pherfformiad a chanlyniad calonogol.

Gwaith amddiffynnol ardderchog oedd wrth wraidd y fuddugoliaeth hon, gyda'r maswr Dan Biggar yn serennu.

Yr asgellwr, George North sgoriodd unig gais y gêm gyda gweddill y pwyntiau yn dod o giciau cosb gan Biggar a Leigh Halfpenny.

Roedd un newid hwyr i dîm Cymru wrth i Liam Williams orfod tynnu nôl oherwydd anaf, y cefnwr profiadol, Leigh Halfpenny ddechreuodd y gêm yn ei le.

Roedd dechreuad araf i'r gêm gyda'r ddau dîm yn amddiffyn yn ardderchog.

Er i Gymru ennill sawl cic gosb yn yr 20 munud cyntaf, roedd Dan Biggar i weld yn benderfynol o gicio am yr ystlys yn hytrach na mynd am y pwyntiau.

Ond yn dilyn cyfnod o bwysau ymosodol gan y tîm cartref, fe ddaeth y pwyntiau cyntaf ar ôl 26 munud o droed dde Biggar.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn raddol fe ddechreuodd y chwarae fynd yn fwy agored, ac ar ôl 31 o funudau fe gafodd asgellwr Lloegr, Anthony Watson ei yrru i'r gell gosb.

Derbyniodd Watson y cerdyn melyn am daro'r bêl ymlaen yn fwriadol.

Munud yn ddiweddarach, yn dilyn rhediad ardderchog gan Josh Adams, fe giciodd Biggar y bêl yn gywir i ddwylo George North ar yr asgell chwith.

Fe sgoriodd North yn hawdd yn y gornel cyn i Biggar ei gwneud hi'n 10-0 ar yr hanner.

Mwy o anafiadau

Roedd anafiadau yn broblem unwaith eto i Gymru wrth i Gatland orfod gwneud dau newid i'r rheng ôl.

Daeth Josh Navidi ymlaen yn lle James Davies wedi 24 munud, ac roedd rhaid i Aaron Shingler gymryd lle Aaron Wainright yn ystod hanner amser.

Dechreuodd Lloegr yr ail hanner yn dda gan roi pwysau gwirioneddol ar amddiffyn y Cymry - a daeth pwyntiau cyntaf yr ymwelwyr diolch i gic gosb gan George Ford.

Ac ar ôl 56 munud fe giciodd Ford yn gywir unwaith eto gan leihau mantais y tîm cartref i bedwar pwynt.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhaid i'r blaenasgellwr, James Davies adael y cae oherwydd anaf

Bron i'r eilydd, Aled Davies daflu mantais Cymru i ffwrdd gyda deg munud yn weddill wrth i Maro Itoje ryng-gipio bas llac gan y mewnwr.

Ond roedd seren y gêm, Dan Biggar, yn effro i'r peryg gan lwyddo i dynnu Itoje i'r llawr cyn iddo fygwth y llinell gais.

Er mai Lloegr oedd yn rheoli'r chwarae yng nghyfnod olaf y gêm, roedd amddiffyn Cymru yn rhy gadarn i'r Saeson.

Ychwanegodd Leigh Halfpenny driphwynt arall i'r cochion gyda phedwar munud yn weddill i'w gwneud hi'n 13-6.