Yr actores Fflur Medi Owen a gweithio fel 'doula'

  • Cyhoeddwyd
Mae Fflur yn chwarae rhan Elin yn Pili PalaFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Fflur yn chwarae rhan Elin yn Pili Pala

Nos Sul, fe ddechreuodd drama newydd, Pili Pala, ar S4C, lle mae'r actores Fflur Medi Owen yn chwarae rhan Elin, merch sy'n beichiogi ar ôl blynyddoedd o fethu, ond sy'n gorfod wynebu penderfyniad torcalonnus wedi darganfod bod cyflwr genetig prin ar ei babi.

Er nad yw Fflur wedi profi'r emosiynau a'r trasiedi y mae ei chymeriad yn eu wynebu yn Pili Pala, fel un sydd wedi ei hyfforddi fel doula, sef rhywun sy'n helpu merched beichiog, ac ar ôl cael babi, mae'n angerddol iawn am y pwnc.

"O'n i'n ffodus iawn i fedru beichiogi yn syth," meddai Fflur Medi Owen sy'n fam i Twm, sy'n saith oed a Nyfain sy'n bump.

"Ond fel llawer o bobl, mae gan Elin longing am fabi, ond bod o ddim yn digwydd iddi. A mae hynny wedi digwydd i lot o fy ffrindiau i.

"I fi, fe aeth y beichiogi a chario'r babi yn llyfn iawn, ond wedyn aeth y geni yn flêr, ac o'n i'n gorfod cael emergency caesarean.

"Rhywbeth sy'n neud fi'n drist wrth sbïo nôl ar fy mhrofiadau i, ydy lle mae'r holl ddoethineb? Lle mae'r merched hŷn i roi cyngor? Mae pob dim yn cael ei basio o'r ochr feddygol."

Cefnogaeth i'r fam

Dyma wnaeth ysgogi Fflur i hyfforddi i fod yn doula tua tair blynedd yn ôl, sef rhywun sy'n gofalu am les emosiynol a seicolegol y fam, cyn, yn ystod ac ar ôl y geni, tra bod y fydwraig yn cymryd gofal o'r babi.

"Mae dod yn fam yn beth enfawr, mae'n gymaint o newid, ti'n gadael un math o fywyd ar ôl a mynd mewn i fywyd newydd, a dwi'n meddwl bod hynny angen rhyw fath o transition," meddai Fflur sy'n edrych ymlaen i ddechrau ar y gwaith o ddifri yn fuan.

Wrth hyfforddi, fe astudiodd Fflur ddiwylliannau fwy cyntefig ar draws y byd, lle mae'r gefnogaeth i famau newydd wedi bod yn agoriad llygaid.

"Fe wnes i astudio am ardaloedd cyntefig yn India, lle mae merched yn edrych ar ôl y fam, yr antis a'r cyfnitherod a'r chwiorydd, fel bod y fam ddim yn gorfod poeni am ddim byd arall, mond bwydo'r babi.

"Dydy ein cymdeithas ni ddim yn glên iawn gyda mamau newydd dwi ddim yn meddwl. Ti'n gorfod trio ffitio'r newid mawr yma yn dy fywyd i mewn i'r gymdeithas, felly dydy o ddim yn fy synnu i bod gymaint o ferched yn cael problemau post natal, achos y sioc.

"Dwi'n cofio ar ôl cael Twm, o'n i'n chaos. A'r dydd roedd pawb wedi gadael a mynd yn ôl i'r gwaith, o'n i'n meddwl 'ydy pawb yn gwybod eu bod nhw wedi fy ngadael i a dwi ddim yn gwybod be dwi'n neud'?!

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin yn wynebu torcalon yn y ddrama

Yn groes i'w phrofiad personol hi, mae cymeriad Elin, yn Pili Pala yn wynebu'r torcalon o fethu beichiogi, ac unwaith ei bod hi'n syrthio'n feichiog mae'n clywed y newyddion bod y cyflwr Syndrom Edwards ar ei babi - cyflwr geneteg prin iawn ond difrifol.

"Allai ddim hyd yn oed ddychmygu, fel mam fy hun, o fethu beichiogi i ddechrau, wedyn bod na gyflwr ar y babi.

"Fe wnes i lot o ymchwil a darllen am brofiadau pobl, a dwi'n gobeithio mod i'n 'neud cyfiawnder efo beth mae merched yn mynd drwyddo."

Mae portreadu'r pwnc hwn yn bwysig iawn, yn ôl Fflur, ac mae'n dweud bod awdur y ddrama, Phil Rowlands, wedi llwyddo i "fynd o dan groen y cymeriadau a chyfleu pa mor bell mae rhywun yn barod i fynd o fewn eu cyfeillgarwch yn dda iawn".

"Pan mae pobl yn agor fyny, mae'n 'neud y byd yn llai unig. Dydy cymdeithas ddim yn forthcoming gyda sut mae pobl yn rhannu eu teimladau go iawn, ac mae'n anrhydedd i fi [i fod yn y ddrama.]

"Dwi'n gobeithio mod i wedi ei gael o'n iawn i'r rhai sydd yn mynd trwy'r profiad o fod eisiau cael plant ond yn methu."

Hefyd o ddiddordeb: