Cyhoeddi enwebiadau gwobrau BAFTA Cymru 2019
- Cyhoeddwyd
Mae ffilm ddogfen sy'n dathlu amrywiaeth cerddoriaeth Gymraeg yn arwain yr enwebiadau ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru 2019.
Mae Anorac wedi cael chwech o enwebiadau, gan gynnwys un i Huw Stephens yn y categori ar gyfer y cyflwynydd gorau.
Stephens ei hun sy'n llywio'r seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd ar 13 Hydref.
Mae cyfres ddrama S4C Enid a Lucy wedi cael pump o enwebiadau, ac mae nifer o actorion amlwg wedi cyrraedd y rhestrau byrion gan gynnwys Syr Anthony Hopkins, Jodie Whittaker a Michael Sheen.
Mae Syr Anthony Hopkins wedi ei gynnwys yng nghategori'r actor gorau am ei bortread o'r prif gymeriad yn y ffilm King Lear.
Bydd yn cystadlu yn erbyn Michael Sheen am ei rôl yn y cynhyrchiad Netflix, Apostle - ffilm a gafodd ei saethu yn ne Cymru, ac sydd wedi cael cyfanswm o bedwar o enwebiadau.
Hefyd yn yr un categori mae Matthew Rhys am chwarae rhan Billy Winters yn Death and Nightingales, a'r actor o Fôn, Celyn Jones yn rhan y llofrudd Levi Bellfield yn nrama ITV, Manhunt.
Yn cystadlu yn erbyn Jodie Whittaker - y Dr Who benywaidd cyntaf - am wobr yr actores orau mae Sian Gibson o'r gyfres gomedi Peter Kay's Car Share, Gabrielle Creevey o'r ddrama gomedi In My Skin sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd, ac Eiry Thomas am bortreadu Enid yn Enid a Lucy ar S4C.
Mae Enid a Lucy wedi cael pedwar enwebiad arall, gan gynnwys yn y categori drama deledu, ac mae un o'i sêr, Steffan Cennydd wedi cael enwebiad Torri Trwodd - fel y mae Seren Jones am y rhaglen ddogfen Zimbabwe, Taid a Fi yn olrhain ei thaith gyntaf erioed i famwlad ei mam.
Mae Fflur Dafydd ar restr fer y wobr ar gyfer awduron am y gyfres 35 Awr, gan ymuno ag Andrew Davies am Les Miserables, Owen Sheers am The NHS: To Provide All People, a Russell T Davies am A Very English Scandal.
Ymysg y rhaglenni Cymraeg eraill sydd wedi'u henwebu mae Cynefin a Drych: Chdi, Fi Ac IVF a chynyrchiadau ar gyfer S4C yw'r holl enwebiadau yn y categori rhaglen adloniant sef Cân i Gymru: Dathlu 50, Elis James - Cic Lan Yr Archif, Priodas Pum Mil! a Geraint Thomas: Viva Le Tour.
Yn ôl cyfarwyddwr BAFTA Cymru, Hannah Raybould mae hi wedi bod yn "flwyddyn wych i gynhyrchu ffilm, teledu a gemau yng Nghymru" gan "arwain at fwy o geisiadau - y nifer fwyaf a gofnodwyd erioed - ar draws ein holl gategorïau crefft, perfformio a chynhyrchu".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2017