Defnyddio pêl-droed i roi hwb i'r iaith
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect iaith yn siroedd Conwy a Dinbych wedi troi at bêl-droed fel modd o ddenu plant ysgol at yr iaith.
Rhan o waith Sian Vaughan o Langernyw, ger Llanrwst, ydi hybu defnydd o'r Gymraeg y tu allan i'r ystafell dosbarth.
Mae'r gwaith y cyd-fynd â llyfr newydd ar gyfer ysgolion fydd yn cael ei lansio'r wythnos nesaf.
"Rwyf wedi bod o amgylch yr ysgolion yn gofyn i athrawon am eu profiadau o ran y Gymraeg, a'r talcen caled i'r rhan fwyaf ydi'r iaith y tu allan i'r dosbarth.
"Ro' nhw'n son am geisio cael y plant i ddefnyddio'r iaith ar y buarth ac un o'r pethau mwyaf amlwg a mwyaf poblogaidd i fechgyn a merched ar y buarth ydi pêl-droed.
"Felly mae'n gyfle iddynt gael clywed fod yna dermau Cymraeg y gallan nhw ddefnyddio a bod yn gyfforddus yn eu defnyddio.
"Ac wedyn eu bod nhw'n gwybod y bod nhw'n gallu siarad am y gêm yn gymdeithasol yn y pentre' neu gyda thîm lleol a bod yn gyfforddus yn gwneud hynny."
Dywedodd fod y gêm yn un gymdeithasol iawn a bod gan bron bod teulu rhyw gysylltiad â phêl-droed, a bod gan bob pentref neu dref eu tîm eu hunain.
Gwaith Ms Vaughan yw gweithio gydag athrawon a chymorthyddion i geisio trawsnewid arferion iaith ar y buarth.
Mae'n gweithio i'r Siarter Iaith, prosiect wnaeth gychwyn yng Ngwynedd ond sydd nawr wedi ehangu yn gynllun cenedlaethol, ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda'r nod o gynorthwyo a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg,
Tanio dychymyg
Bu'n siarad am ei gwaith a'r cynllun pêl-droed ar raglen Ar y Marc Radio Cymru am 08:30 dydd Sadwrn.
Mae'r syniad o ddefnyddio pêl-droed fel modd o annog plant i ddefnyddio'r iaith hefyd wedi ysgogi llyfr newydd.
Hi yw awdur Cymru a'r Bêl Gron gan Ganolfan Peniarth sy'n cael ei lansio yr wythnos nesaf.
"Mae'r llyfr yn un ar gyfer ysgolion yn benodol, gyda'r athro yn arwain y plant drwy'r llyfr.
"Mae'n son am hanes y gêm yng Nghrymu a ffeithiau eraill yn gysylltiedig ar gêm. "
Ychwanegodd fod pencampwriaeth Euro 2016 wedi helpu i danio dychymyg y plant, ac adeiladu ar y diddordeb hwnnw ydi'r bwriad.
"Siarad yr iaith sy'n bwysig - d'oes gorfodaeth, dim disgwyl i'r plant i beidio defnyddio termau fel free kick ac ati, mae'n bwysig bod yn realistig - ond mae angen iddyn nhw wybod be ydi'r termau Cymraeg hefyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2019
- Cyhoeddwyd27 Awst 2019