Cynllun tai: Cyfleon gwirfoddoli i denantiaid di-waith

  • Cyhoeddwyd
Bryn Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Dyma'r ffordd ymlaen i gartrefi cymdeithasol," yn ôl Bryn Jones

Mae menter gymdeithasol yng ngogledd Cymru yn torri tir newydd trwy gyfuno'r angen am dai cymdeithasol â rhoi cyfleon gwirfoddoli i denantiaid sy'n ddi-waith.

Mae'n 100 mlynedd ers pasio deddfwriaeth tai newydd - neu ddeddf Addison - arweiniodd y ffordd at gynlluniau mawr ar gyfer tai cymdeithasol.

Er na chafodd y cynllun hwnnw ei wireddu'n llawn, fe sefydlodd yr egwyddor o gael tai cymdeithasol wedi'u hariannu gan y wlad.

Wrth edrych ar ddyfodol tai cymdeithasol, mae menter gymdeithasol Cartrefi Conwy - Creu Menter - wedi penderfynu cyflogi tenantiaid sydd allan o waith i adeiladu tai newydd.

Mae'r fenter wedi derbyn archebion gan gynghorau a datblygwyr preifat ar draws gogledd Cymru ac wedi agor ffatri gynhyrchu ar Ynys Môn.

Ar y safle ar Stad Ddiwydiannol Penrhos yng Nghaergybi, maen nhw'n paratoi'r strwythurau ffrâm bren, sydd wedyn yn cael eu cludo i'r safleoedd adeiladu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r fenter wedi creu pedair swydd newydd, gyda rhagor ar y gorwel

Mae'r tai 'modwlar' di-garbon yn ynni-isel ac, yn ôl y fenter, yn costio rhyw £200 y flwyddyn i'w rhedeg, gan arbed tua 90% oddi ar filiau ynni'r tenantiaid.

Mae fframiau'r tai yn gallu cael eu hadeiladu mewn llai na thridiau, a'u codi ar y safle o fewn 10 diwrnod.

Mae'n cymryd rhyw dri i bedwar mis o ddechrau'r broses i'r adeg lle mae'r tenant yn gallu symud i mewn.

Y gred ydy mai hon yw'r fenter gymdeithasol gynta' o'i math yng Nghymru ac mae wedi creu pedair swydd newydd, gyda rhagor ar y gorwel wrth i'r cynllun dyfu.

Maen nhw hefyd wedi sefydlu Academi Gyflogaeth i roi cyfleoedd, hyfforddiant a chymwysterau i bobl leol di-waith, gan gynnwys tenantiaid Cartrefi Conwy.

Bydd y tai cynta' yn cael eu codi ar ddatblygiad tai cymdeithasol newydd yn ardal Morawel yng Nghaergybi, gyda'r gwaith i ddechrau yn y dyddiau nesa'.

'Cyfleoedd i bobl leol'

"Heb os, dyma'r ffordd ymlaen i gartrefi cymdeithasol," meddai Bryn Jones, sy'n arwain y tîm adeiladu yn y ffatri yng Nghaergybi.

"Mae'n dŷ sydd i safon passive, felly does dim angen ei gynhesu o gwbl bron oherwydd yr insiwleiddio.

"Mae'r aer tu mewn yn cael ei reoli'n fecanyddol felly 'da chi'n cael awyr glân, sy'n helpu pobl sydd 'efo asthma neu gyflyrau ysgyfaint eraill.

"Mae hefyd yn rhad i'w wresogi, gan ddod â phobl allan o dlodi tanwydd.

"'Da ni hefyd yn rhoi cyfleoedd i bobl leol sydd allan o waith, yn rhoi profiad gwaith iddyn nhw a rhoi cyfle iddyn nhw fod yn rhan o system y ffatri."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n gallu eu helpu nhw mewn bywyd yn gyffredinol," meddai Sioned Wyn Williams

Ychwanegodd Sioned Wyn Williams, o Creu Menter: "Mae'n rhoi pwrpas iddyn nhw - maen nhw'n gweld y gwaith maen nhw wedi'i wneud ar y safle wrth iddo ddatblygu.

"Maen nhw'n gallu dangos i'w teuluoedd ar be' maen nhw 'di bod yn gweithio.

"Mae'r sgiliau maen nhw'n eu cael yn y ffatri, maen nhw'n gallu mynd â nhw adra 'efo nhw.

"O'dd gynno ni un gwirfoddolwr aeth ymlaen i roi bwrdd at ei gilydd i'w fab allu bwyta ei ginio arno fo. Felly mae'n gallu eu helpu nhw mewn bywyd yn gyffredinol.

"Ma' gwirfoddolwyr i gyd yn dysgu sgiliau newydd yn syth. Maen nhw'n cael cefnogaeth gan y saer a'r tîm yn y ffatri, ond 'da ni hefyd yn rhoi cefnogaeth ychwanegol efo pethau fel CVs a chwilio am waith."