Rhybudd y gall Caerdydd droi'n ddinas o fflatiau gwag
- Cyhoeddwyd
Fe allai Caerdydd ddatblygu yn ddinas o adeiladau aml-lawr gwag yn y dyfodol oherwydd bod gormod o fflatiau moethus i fyfyrwyr, yn ôl rhai.
Mae gwaith ymchwil gan BBC Cymru yn dangos bod tua 7,400 o unedau newydd - y rhan fwyaf ar gyfer myfyrwyr - wedi cael caniatâd cynllunio ers 2014.
Ond mae nifer o gwmnïau datblygu wedi gorfod gosod fflatiau o'r fath i ymwelwyr neu bobl broffesiynol, ar ôl methu a denu myfyrwyr.
Dywedodd Cyngor Caerdydd bod nifer y gwelyau yn parhau yn is na nifer y myfyrwyr yn y brifddinas, er y nifer uchel o geisiadau i godi fflatiau myfyrwyr.
Mae'r datblygiadau newydd yn cynnwys adeilad 25 llawr Zenith, a bloc myfyrwyr 42 llawr yn ardal Gorsaf Caerdydd Canolog - yr adeilad uchaf yng Nghymru unwaith iddo gael ei gwblhau.
Ond yn ddiweddar, mae pum datblygiad oedd ar gyfer myfyrwyr wedi gorfod newid eu statws oherwydd prinder cynigion gan fyfyrwyr.
Gyda mwy a mwy yn gwneud cais i newid statws, a chynlluniau i adeiladau mwy o lety myfyrwyr ar y gweill yn y ddinas, mae pryder gan rai y bydd sawl adeilad yn parhau'n wag am amser hir.
Yn ôl y pensaer Jonathan Adams, y dyn wnaeth gynllunio Canolfan Mileniwm Cymru, mae'n bosib y bydd yn rhaid dymchwel rhai o'r adeiladau yn y dyfodol.
Dywedodd Mr Adams nad yw'r adeiladau wedi eu cynllunio ar gyfer diben arall, gan fod rheolau cynllunio yn golygu bod rhaid eu trin yn wahanol i ddatblygiadau eraill.
Mae'n golygu fod safonau o ran gofod, golau a gofod y tu allan yn is na'r safonau ar gyfer datblygiadau cyffredin.
Dywedodd Mr Adams fod hyn yn golygu nad yw eu newid i fflatiau cyffredin yn broses hawdd, ac fe allai datblygwyr wynebu costau uchel i'w haddasu.
"Mae'n anodd peidio â gweld sefyllfa yn y dyfodol lle na fyddant yn gwybod beth i wneud gyda'r adeiladau yma."
'Gormod ar y farchnad'
Y llynedd, fe wnaeth Cyngor Caerdydd gyflwyno canllawiau yn awgrymu y dylai datblygwyr sydd am godi llety myfyrwyr gynnwys adroddiad ar sut y byddant yn newid yr adeilad i fod yn westy neu gartrefi cyffredin.
Yn ôl David Feeney, arbenigwr eiddo o gwmni Cushman and Wakefield, mae nifer o fflatiau myfyrwyr yn parhau yn wag oherwydd bod y rhent yn rhy uchel a bod yna ormod ohonynt ar y farchnad.
Tra bod nifer o gwmnïau yn cynnig rhent is neu frecwast am ddim, dywed Mr Feeney nad yw hyn yn ddigon i ddenu myfyrwyr o'r llety traddodiadol - sef nifer o bobl yn rhannu tŷ.
"Pe bai chi'n codi £150 yr wythnos ar gyfer y fflatiau hyn, nid ydych yn mynd i'w denu o dŷ lle byddant yn talu £80 yr wythnos - allan nhw ddim fforddio hynny," meddai.
Ond mae datblygwyr adeilad uchaf Cymru, Custom House, yn dweud nad ydynt yn rhannu'r farn nad oes yna alw am fflatiau o'r fath.
Dywed cwmni Watkin Jones fod Caerdydd yn parhau yn "ddinas ddeniadol a llawn bwrlwm sy'n denu myfyrwyr".
Ychwanegodd llefarydd fod pobl dal am fuddsoddi yn y sector.
Manteisio ar y system?
Beirniadaeth arall gan Mr Feeney yw ei honiad fod rhai yn ceisio manteisio ar y system.
Pan mae datblygwr yn gwneud cais am godi llety myfyrwyr does yna ddim gorfodaeth i wneud cyfraniad i'r sector tai fforddiadwy - fel sydd ar gyfer datblygiadau cyffredin.
Ac yn wahanol i berchnogion gwestai, dyw perchnogion fflatiau myfyrwyr ddim yn talu treth busnes.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y byddai'n wirion i ddatblygwyr geisio twyllo'r broses cynllunio gan y byddai unrhyw newidiadau i'w cynlluniau yn golygu "proses hirach a fwy costus i'r datblygwr".
"Fe fyddai'r datblygwyr hefyd yn gorfod talu ffïoedd cynllunio newydd ynghyd â ffioedd i'r pensaer ac mewn sawl achos byddai hyn yn gallu golygu ailwampio sylweddol y tu mewn a'r tu allan i'r adeilad.
"Ni all awdurdod cynllunio wrthod cais ar y sail nad ydym yn credu fod galw am y datblygiad.
"Tra bod Caerdydd wedi gweld nifer o geisiadau am lety myfyrwyr yn y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y gwelyau yn parhau yn is na chyfanswm poblogaeth myfyrwyr Caerdydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd24 Mai 2019