AS Rhondda eisiau sefyll fel Llefarydd Tŷ'r Cyffredin

  • Cyhoeddwyd
Chris Bryant
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Bryant yn gyn-Arweinydd Cysgodol y Tŷ, ac wedi ysgrifennu bywgraffiad o'r Senedd

Mae AS Rhondda, Chris Bryant wedi cyhoeddi ei fod yn awyddus i olynu John Bercow fel Llefarydd Tŷ'r Cyffredin.

Dywedodd Mr Bryant ei fod yn awyddus i drafod y peth gydag aelodau'r blaid Lafur yn ei etholaeth cyn gwneud sylw pellach.

Ddydd Llun fe gyhoeddodd Mr Bercow y byddai'n camu o'r neilltu fel Llefarydd erbyn 31 Hydref, a hynny wedi 10 mlynedd yn y swydd.

Mae Harriet Harman, yr AS benywaidd sydd wedi bod yn Nhŷ'r Cyffredin hiraf, eisoes wedi cadarnhau y bydd hi yn sefyll yn y ras i'w olynu.

Cadw trefn

Mae Lindsay Hoyle o'r Blaid Lafur ac Eleanor Laing o'r Ceidwadwyr, y ddau ar hyn o bryd yn ddirprwy lefarwyr, hefyd wedi taflu'u henwau i'r het.

Ymhlith yr enwau eraill sydd wedi datgan eu bwriad i sefyll mae'r Ceidwadwr Syr Edward Leigh, a Pete Wishart o'r SNP.

Mae'r Llefarydd yn gyfrifol am gadw trefn yn Nhŷ'r Cyffredin, gan ddyfarnu pa faterion sy'n cael eu trafod a galw ASau i gyfrannu.

Dim ond unwaith o'r blaen y mae'r Llefarydd wedi bod yn AS ar etholaeth yng Nghymru - George Thomas, AS Gorllewin Caerdydd, oedd yn y swydd rhwng 1976 ac 1983.

Yn draddodiadol dyw'r prif bleidiau ddim yn sefyll ymgeisydd yn erbyn y Llefarydd mewn etholiadau cyffredinol unwaith mae'r person hwnnw wedi esgyn i'r swydd.

Ond yn etholiad 1979, yr unig un i Mr Thomas sefyll fel Llefarydd, fe wnaeth Plaid Cymru ddewis ymgeisydd.