Pennod newydd i theatr 'eiconig' yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae hen adeilad theatr sydd wedi rhoi llwyfan i sêr fel Charlie Chaplin, Lilly Langtry a Morecambe and Wise i gael ei brynu gan Gyngor Abertawe er mwyn ei adnewyddu.
Dywed y cyngor eu bod wedi dod i gytundeb gyda pherchnogion Theatr y Palas, sy'n wag ers 2006, ac yn ffyddiog o gael nawdd at adfer yr adeilad gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r awdurdod yn bwriadu cadw edrychiad eiconig allanol yr adeilad a datblygu'r tu mewn dros gyfnod o ddwy i dair blynedd gan greu swyddfeydd a siopau newydd.
Mae yna amcangyfrif y bydd adfer a datblygu'r adeilad yn costio £5m.
Cafodd yr adeilad rhestredig gradd II ei godi yn 1888 gyda lle ar gyfer cynulleidfa o hyd at 900.
Mae hefyd wedi ei ddefnyddio fel clwb nos a chlwb bingo.
Daw'r cyhoeddiad ddyddiau ar ôl i griwiau tân gael eu galw i ddiffodd tân yn yr adeilad gwag.
Mae yna gred "i bedwar tân bach gael eu cynnau yn fwriadol", yn ôl Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart.
"Fe wnaeth hyn ddifrodi tu mewn yr adeilad ond fe gafodd y tân ei reoli yn gyflym iawn ac mae'r adeilad yn ddiogel."
Mae rhai wedi beirniadu'r cyngor am fethu â gweithredu'n gynt i atal dirywiad yr adeilad, ond yn ôl Mr Stewart, "mae'n anodd os ydy'r perchennog ddim eisiau gwerthu ond heb yr adnoddau i'w adfer".
Ychwanegodd eu bod "yn ddiolchgar o allu camu i'r adwy ac achub yr adeilad".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2013