Cwmni Celsa yn pledio'n euog wedi marwolaeth gweithwyr
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni dur wedi pledio'n euog i fethu â gwneud asesiad risg mewn ffatri yng Nghaerdydd lle bu farw dau weithiwr mewn ffrwydrad yn 2015.
Cafodd dau beiriannydd - Mark Sim a Peter O'Brien - eu lladd ar safle cwmni Celsa yn Sblot o ganlyniad i'r ffrwydrad.
Cafodd gweithwyr eraill hefyd eu hanafu yn y digwyddiad.
Fe blediodd y cwmni'n euog i'r cyhuddiad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher, ar ôl i'r gweithgor iechyd a diogelwch eu herlyn.
Mae hynny'n golygu na fydd achos llys, a oedd fod i bara hyd at chwe wythnos.
Dywedodd y barnwr Neil Bidder y dylai'r cwmni ddisgwyl dirwy ariannol sylweddol pan fyddan nhw'n cael eu dedfrydu ar 4 Hydref.
Ym mis Ionawr y llynedd dywedodd Heddlu De Cymru nad oedd digon o dystiolaeth i ddod ag achos o ddynladdiad drwy esgeulustod na ddynladdiad corfforaethol yn erbyn y cwmni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2018