Gweinidogion sy'n colli eu swydd i gael cefnogaeth bellach
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi cyhoeddi newidiadau i'r drefn o sut bydd gweinidogion yn y llywodraeth sy'n cael eu diswyddo yn cael eu trin yn sgil marwolaeth Carl Sargeant.
Fe gafodd Mr Sargeant ei ganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah ym mis Tachwedd 2017, bedwar diwrnod ar ôl cael ei ddiswyddo gan Mr Jones fel gweinidog yn Llywodraeth Cymru.
Roedd yn wynebu honiadau o ymddygiad amhriodol tuag at ferched. Roedd Mr Sargeant yn gwadu'r honiadau.
Ym mis Gorffennaf eleni, daeth y crwner John Gittins i'r casgliad bod angen cynnig mwy o gefnogaeth i weinidogion sy'n colli eu swyddi.
'Cefnogaeth bellach'
Clywodd y cwest i'w farwolaeth fod gan Mr Sargeant broblemau iechyd meddwl.
Dywedodd John Gittins nad oedd trefniadau swyddogol yn ei lle i gefnogi Mr Sargeant yn ystod adrefnu'r cabinet yn 2017, "er gwaetha'r tebygolrwydd fod y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones yn ymwybodol o sefyllfa fregus Mr Sargeant o ran ei iechyd meddwl".
Mewn ymateb ffurfiol i ganfyddiadau'r cwest, dywedodd Mr Drakeford y byddai'r prif chwip yn cysylltu â gweinidogion sy'n colli eu swyddi yn y dyfodol er mwyn gweld os oes angen cynnig cefnogaeth bellach.
Bydd pecyn sydd wedi'i safoni gyda chyngor ymarferol hefyd yn cael ei roi i weinidogion sy'n gadael eu swyddi.
Cafodd Carl Sargeant ei olynu fel Aelod Cynulliad gan ei fab Jack, ac mewn datganiad ddydd Iau dywedodd: "Fel teulu rydym yn croesawu ymateb y Prif Weinidog i'r crwner.
"Mae'n amlwg i ni fod y prif weinidog presennol yn cymryd ei gyfrifoldeb i warchod lles gweinidogion o ddifri, ac mewn ffordd nad oedd yn bodoli adeg marwolaeth fy nhad.
"Wrth gwrs dyw hwn ddim yn hawdd i ni ei ddarllen. Ni allwn ond teimlo fod dull ffwrdd-â-hi y prif weinidog blaenorol wrth ddiswyddo Dad o'r llywodraeth wedi cyfrannu'n sylweddol at ei farwolaeth.
"Rydym yn gobeithio y bydd Mark Drakeford yn gofalu dros fath mwy caredig o wleidyddiaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2019
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2018