Tips bywyd coleg i fyfyrwyr newydd

  • Cyhoeddwyd
Nest a JamesFfynhonnell y llun, Nest Jenkins a Jacob Morris
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nest a Jacob yn mynd i'w trydydd blwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd

Beth yw hanfodion bywyd coleg? Mae hi'n Wythnos y Glas yn llawer o golegau Cymru felly dyma fyfyrwyr trydydd blwyddyn Prifysgol Caerdydd a chyflwynwyr XPress Radio, Nest Jenkins a Jacob Morris, yn siarad o brofiad.

Blynyddoedd coleg, yw'r blynyddoedd gorau.

Fel myfyrwyr sydd ar fin mentro i'n trydedd flwyddyn does dim byd yn cymharu â bod yn fyfyriwr. Er, fe ddaw'r tair blynedd â'i heriau o goginio, cyd-fyw ynghyd â wynebu ambell ddarlith ben bore gyda chur pen!

Felly, dyma gyngor i'r sawl sydd yn hedfan y nyth, gadael Mam a Dad ac ymgodymu â byw'n annibynnol am y tro cyntaf.

  • Pasta

Wedi holl tecawês a bwyd brys Wythnos y Glas, mae'n bryd cyfarwyddo â realiti, hynny yw 'realiti myfyriwr'.

Prin fod yr un myfyriwr yn hoff o slafio yn y gegin felly dewiswch fwydydd sy'n hawdd i'w paratoi. Heb os, pasta yw eich ffrind gorau.

Ffynhonnell y llun, X Press Radio
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jacob a Nest yn cyflwyno rhaglen Crac y Wawr ar XPress Radio ac maen nhw wedi cyflwyno rhaglenni ar Radio Cymru hefyd

Os ydych chi'n dynn ar amser neu'n methu â goddef gwres y gegin, dim ond ychwanegu llwyaid o besto neu basata, a bon appétite mae gennych bryd rhad a swmpus. 'Dyw e ddim cweit yn Jamie Oliver ond mae'n ddigon i leino'r stumog cyn bwrw'r dre.

  • Cypyrddau Mam a Dad

Cofiwch, os 'y chi adref am benwythnos, gwnewch yn siŵr o dwrio drwy gypyrddau Mam a Dad am yr hanfodion: saws coch, olew olewydd ac ambell botel win sy'n segur gyda nhw.

  • Fflip fflops

Os nad ydych yn ddigon ffodus i hawlio en suite, mae rhannu tŷ bach a chawod yn dipyn o brofiad. Heb wneud i chi gyfogi, ystyriwch yr holl bobl ddieithr sydd wedi troedio ar lawr eich cawod, felly ewch â fflip fflops a chadwch botel o bleach yn handi!

Gwaetha'r modd, o fewn rhai wythnosau mae'n siŵr y byddwch wedi diosg yr holl safonau hylendid ac wedi cyfarwyddo â'r plwg sydd wedi tagu dan yr holl wallt a'r gawod sy'n gorlifo.

  • Papur tŷ bach personol

Mae papur tŷ bach yn gallu bod fel aur. Gair i gall, mae'n bwysig rhannu ond cadwch ambell rolyn dan glo rhag ofn bod argyfwng!

Ffynhonnell y llun, Jacob Morris a Nest Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Daw Jacob a Nest o'r gorllewin: Jacob o Lanelli yn astudio Cymraeg a Gwleidyddiaeth a Nest o Ledrod yng Ngheredigion yn astudio'r Gyfraith a Chymraeg

  • 'Fairylights' a chlustogau

Ar yr olwg gyntaf, fydd eich ystafell wely newydd yn wag ac yn ddifywyd. Ond wedi trip chwim i IKEA mae modd trawsnewid eich cell fach oeraidd yn nyth fach glyd llawn fairylights, clustogau a phlanhigion bach dibwys.

  • Gwin a gitâr

Ar gyfer y nosweithiau mas annisgwyl, sy'n codi'n aml iawn, mae'n syniad cadw stôr o win dan y gwely sy'n arbed chi rhag gorfod rhedeg i'r siop ar y funud ola'.

Mae'n debygol y bydd gan un o'ch ffrindiau newydd ddawn gerddorol, felly hanfodol yw pacio allweddell, gitâr neu hyd yn oed y delyn.

Beth am brofi noson o brosecco gan gydganu i glasuron Huw Chiswell mewn noswaith o 'Chiz a Fizz'!

  • Mwynhewch

Yn y flwyddyn gyntaf, gwnewch yn siŵr o fwynhau'r i'r eithaf. Wrth gwrs mae'r gwaith academaidd yn bwysig ond mae'r cymdeithasu a'r cyfleoedd allgyrsiol cyn bwysiced â'r holl draethodau.

Gwnewch y pethau gwyllt a chofleidiwch bob cyfle achos wedi'r cyfan a ddown nhw fyth yn nôl.

Ffynhonnell y llun, Jacob Morris a Nest Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Cofiwch gael digon o hwyl!

Hefyd o ddiddordeb:

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw