Galw am ddysgu cymorth cyntaf ym mhob ysgol yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
A hithau'n Ddiwrnod Cymorth Cyntaf y Byd ddydd Sadwrn, mae 'na alw am gyflwyno gwersi sgiliau achub bywyd ym mhob ysgol yng Nghymru.
Yn ôl ymchwil diweddar gan elusen y Groes Goch, mae bron i 90% o ddisgyblion Cymru'n credu mai cymorth cyntaf yw un o'r gwersi pwysicaf y gallan nhw ei gael.
Ychwanegwyd bod 58% o blant ddim yn teimlo y bydden nhw'n gwybod beth i'w wneud pe bydden nhw'n gweld rhywun wedi brifo ac angen help.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai dewis pob ysgol unigol fyddai darparu gwersi o'r fath o dan y cwricwlwm newydd.
'Brwdfrydig iawn'
Dywedodd Dafydd Beech o'r Groes Goch: "'Da ni wedi bod yn ymgyrchu'n galed iawn i drio cael sgiliau cymorth cynta' ar y cwricwlwm newydd, a mi fyddwn ni'n gwybod beth fydd canlyniad hynny diwedd mis nesa' gobeithio.
"Yr ymateb 'da ni'n ei gael gan ysgolion - yr athrawon a'r bobl ifanc - ydy eu bod nhw'n frwdfrydig iawn.
"'Da ni wedi torri'r sgiliau i lawr i'w gwneud nhw'n hawdd iawn i'w cofio, felly os oes rhywbeth yn digwydd, eu bod nhw'n gallu cofio'r pethau 'ma yn sydyn iawn."
Yn ôl pennaeth Ysgol Gynradd Llanllechid ger Bethesda, Gwenan Davies-Jones: "Mae gennym ni rhywfaint o hyblygrwydd efo'r cwricwlwm dyddia' yma, a dwi'n teimlo'n gryf y dylai o fod yn rhan o'r arlwy 'da ni'n rhoi i bob plentyn ysgol gynradd.
"'Da ni wedi gwneud hynny, a 'da ni'n gweld effaith hynny hefyd wrth iddyn nhw fynd yn hŷn.
"Maen nhw'n fwy hyderus ac os ydyn nhw'n dod wyneb i wyneb â sefyllfa lle mae rhywun wedi brifo, mae ganddyn nhw wybodaeth eitha' trylwyr ac yn gwybod sut i weithredu."
Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd athrawon yn gallu canolbwyntio ar lawer o bynciau iechyd a lles o fewn y cwricwlwm newydd, gan gynnwys cymorth cyntaf.
Er hynny, mater i ysgolion unigol fydd penderfynu sut i gynnwys y cyfleoedd dysgu yna o fewn y cwricwlwm.
Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r ymgynghoriad ar y cwricwlwm newydd ar hyn o bryd, ac mae disgwyl i'r fersiwn derfynol gael ei chyhoeddi'r flwyddyn nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2017
- Cyhoeddwyd10 Medi 2016