Plaid Cymru i ystyried newid polisi a dileu Brexit?

  • Cyhoeddwyd
Adam Price
Disgrifiad o’r llun,

Fe gynhaliodd ACau Plaid Cymru gynhadledd i'r wasg yn y Cynulliad fore Mawrth

Dylai Plaid Cymru ymgyrchu i ganslo Brexit os bydd etholiad cyffredinol, yn ôl arweinydd y blaid.

Dywedodd Adam Price y bydd aelodau'r blaid - sydd ar hyn o bryd yn cefnogi refferendwm arall - yn cael eu hannog i gefnogi'r newid polisi.

Wrth ymateb, dywedodd y Ceidwadwr Andrew RT Davies y byddai hynny'n "gic" i bobl Cymru wnaeth bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016.

Bydd aelodau Plaid Cymru yn cael yr opsiwn i bleidleisio dros y newid yn eu cynhadledd hydref fis nesaf.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi mabwysiadu polisi tebyg.

'Cynnig dewis clir'

Dywedodd Mr Price fod ei blaid wedi bod yn gyson yn dweud mai'r unig ffordd ymlaen fyddai i gael refferendwm arall.

Mae posibilrwydd o gael mwyafrif i wneud hynny ddigwydd, meddai.

Ond ychwanegodd pe byddai etholiad cyffredinol yn digwydd cyn pleidlais gyhoeddus arall, yna fyddai'r etholiad yn rhyw fath o refferendwm "proxy".

"Os rydym ni'n cael ein gorfodi fewn i etholiad, mae'n rhaid i ni gynnig dewis clir i aros i'r bobl," meddai.