Galw am gau'r bwlch academaidd rhwng bechgyn a merched
- Cyhoeddwyd
Mae angen rhoi mwy o flaenoriaeth i gau'r bwlch sy'n bodoli rhwng perfformiad academaidd bechgyn a merched, yn ôl ymgynghorydd addysg sydd â phrofiad helaeth yn y maes.
"Mae yna 14 pwnc yng Nghymru lle mae'r bwlch rhwng bechgyn a merched rhwng 10 ac 20% - mae hynny'n cau drysau," meddai Alan Evans, sydd wedi treulio dros 20 mlynedd yn astudio cyrhaeddiad bechgyn.
"Mae'n ddrwg iawn yng Nghymru, ac yn Lloegr, ac yn y mwyafrif o wledydd datblygedig."
Yn ôl Lucy Hacker, pennaeth Saesneg Ysgol Lewis, Pengam - yr ysgol gyfun olaf i fechgyn yn unig yng Nghymru - mae nifer o fechgyn yn dioddef o ddiffyg hyder yn hytrach na diffyg gallu.
Gwelodd yr ysgol welliant sylweddol yng nghanlyniadau TGAU Saesneg yr haf hwn ond ledled y wlad roedd canran y bechgyn a gyflawnodd y graddau uchaf 17% yn is na'r merched.
Yn gyffredinol, roedd perfformiad bechgyn yng ngraddau A*-C 9.8% yn is na merched, parhad patrwm dros nifer o flynyddoedd ac un sydd ddim yn unigryw i Gymru.
Mae'r pynciau hynny'n cynnwys Saesneg (16.9%), Llenyddiaeth Saesneg (15.9%), Cymraeg Iaith Gyntaf (16%), Llenyddiaeth Gymraeg (16.2%) a Chymraeg Ail Iaith (21.1%).
Yn y ddau TGAU Mathemateg mae'n ddarlun mwy cyfartal - roedd cyfran y bechgyn gafodd A*-C 2% yn uwch mewn Mathemateg: Rhifedd a 2.4% yn is mewn Mathemateg.
'Magu hyder'
Ar ôl dysgu mewn ysgol gymysg tan y llynedd dywedodd Ms Hacker ei bod wedi defnyddio union yr un dulliau addysgu yn ei hysgol newydd yng Nghwm Rhymni.
"Does 'na ddim un peth magical," meddai. "Jest dysgu ac addysgu da, cynllunio a pherthynas dda gyda'r bechgyn. Dyna be' sy'n bwysig.
"Mae'r bechgyn yn hoffi gwneud yn dda, maen nhw'n hoffi perthynas dda hefo'r athro neu'r athrawes. Maen nhw'n sensitif hefyd."
Bu gwelliant o 11% yr haf hwn yng nghanlyniadau TGAU Saesneg Ysgol Lewis, a dywedodd Ms Hacker bod magu hyder yn y bechgyn yn eu gallu i lwyddo yn y pwnc hefyd yn hanfodol.
"Dwi'n credu bod beth sy'n digwydd tu allan i'r ysgol yn bwysig iawn," meddai.
"Rwy'n credu fod disgwyliadau cymdeithasol [i fechgyn] jest ddim yna i bynciau fel Saesneg neu lenyddiaeth. Mae 'na duedd tuag at STEM: Maths, Peirianneg, Technoleg - pethau fel 'na.
"Weles i gyda rhai o'r bechgyn roedd e'n haws i beidio trio'r gwaith a chael stŵr na thrio a methu ei wneud e."
'Cau drysau'
Mae Mr Evans yn cytuno bod codi dyheadau - nid yn unig rhai'r bechgyn ond rhai rhieni, athrawon a llunwyr polisi - yn fater allweddol.
Mae'n dadlau bod perfformiad trawiadol y 10% uchaf o fechgyn - gan gynnwys mwy o raddau A* ar lefel safon uwch - yn ogystal â'r ffaith bod cyflogau dynion ar gyfartaledd yn uwch na rhai menywod, yn gweithio yn erbyn rhoi mwy o sylw i'r mater.
Ond dywedodd y byddai o fudd i bawb pe bai mwy o fechgyn yn cyrraedd eu potensial.
"Rydyn ni'n cau drysau i 10-15% o fechgyn a fydd yn tangyflawni'n barhaus am weddill eu hoes," meddai.
Yn Ysgol Lewis mae'r pennaeth Chris Parry, yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng perfformiad mewn arholiadau a chael swydd.
"Rydyn ni angen i'r bobl ifanc hyn, p'un ai ydyn nhw'n fechgyn neu'n ferched, i lwyddo - nid yn unig yn yr ysgol ond yn y gweithle," meddai.
"Mae canolbwyntio ar y materion hyn yn bwysig iawn oherwydd dyma'r disgyblion sy'n mynd i yrru economi Cymru yn y dyfodol ac rwy'n credu bod cynyddu perfformiad merched a bechgyn i'r eithaf yn allweddol i hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2019