Harlech yn ffarwelio ag adeilad 'hyllbeth'
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith o ddymchwel hen westy Dewi Sant yn Harlech wedi dechrau.
Yn ôl swyddogion cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri roedd golwg y lle'n "effeithio'n andwyol ar yr ardal gyfagos".
Mae'r adeilad gwag, sydd yn weddol agos at gastell Harlech, wedi bod yn dirywio ers sawl blwyddyn.
Fe gafodd y perchnogion, cwmni Aitchison Associates o Gibraltar orchymyn i ddymchwel y gwesty gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri nôl yn 2015 am resymau diogelwch.
Fe gafodd y cwmni hefyd ddirwy o £21,900 am fethu â chydymffurfio â rhybudd gorfodaeth.
Dywedodd Jonathan Cawley, Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheoli Tir Awdurdod y Parc Cenedlaethol: "Mae wedi bod yn dipyn o broses i gyrraedd y pwynt yma, a hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu cefnogaeth a'u hamynedd dros y blynyddoedd.
"Diolch hefyd i Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd sydd wedi bod yn bartneriaid allweddol wrth ein cynorthwyo i gyflawni'r nod o ddymchwel y gwesty sydd wedi peri cymaint o rwystredigaeth yn lleol."
Yn ôl y cynghorydd sir lleol, Freya Benthamei roedd heddiw yn "ddiwedd i'r bennod hon yn hanes Harlech.
"Rwyf wrth fy modd bod yr hyllbeth yma ar dirlun Harlech am gael ei ddymchwel o'r diwedd.
"Credaf y bydd yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar economi Harlech, a gobeithiaf y bydd yn annog buddsoddiad ac ailddatblygid safleoedd eraill gerllaw," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Awst 2019
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2019