Cyhoeddi canfyddiadau ymchwiliad cam-drin plant

  • Cyhoeddwyd
Bryn Alyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae digwyddiadau yng nghartref Bryn Alyn ger Wrecsam yn un o'r elfennau gafodd eu hystyried yn yr ymchwiliad

Bydd adroddiad yn edrych ar sut mae pobl sydd wedi dioddef trosedd ryw pan yn blant yn cael iawndal yn cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach.

Mae'r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Rhyw yn erbyn Plant (IICSA) yn ymchwiliad eang sy'n edrych ar honiadau yn erbyn cynghorau lleol, grwpiau crefyddol, y lluoedd arfog a sefydliadau eraill yn mynd yn ôl blynyddoedd.

Am dair wythnos y llynedd, edrychodd ar sut y mae pobl gafodd eu cam-drin yn ceisio cael atebolrwydd ac iawndal, weithiau flynyddoedd wedi'r digwyddiad.

Roedd hyn yn sgil honiadau o ddiffyg cefnogaeth, cwmnïau yswiriant anhylaw a system gyfiawnder sifil nad oedd yn sicrhau iawndal yn effeithiol.

Clywodd yr ymchwiliad gan bedwar gafodd eu cam-drin yng nghartrefi Bryn Alyn ger Wrecsam ac am y "brwydrau" wynebon nhw mewn llysoedd sifil.

Mae disgwyl i'r ymchwiliad gyhoeddi ei adroddiad ar y pwnc amser cinio.