Proses iawndal i ddioddefwyr cam-drin yn 'rhwystredig'

  • Cyhoeddwyd
Adroddiad IICSAFfynhonnell y llun, IICSA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn edrych i'r heriau sy'n wynebu dioddefwyr wrth geisio cael iawndal ac atebolrwydd

Dydy'r systemau troseddol na chyfiawnder sifil ddim yn gallu sicrhau atebolrwydd ac iawndal yn effeithiol i bobl sydd wedi dioddef trosedd ryw yn eu plentyndod, yn ôl ymchwiliad annibynnol.

Dywed adroddiad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Rhyw yn erbyn Plant (IICSA) bod y prosesau cyfreithiol yn ddryslyd, rhwystredig, gwrthwynebus a di-fudd i lawer o ddioddefwyr.

Edrychodd yr ymchwiliad ar bum achos yng Nghymru a Lloegr o'r 1960au i'r presennol, gan gynnwys camdriniaeth mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru.

Roedd pedwar unigolyn a gafodd eu cam-drin yng nghartrefi Bryn Alyn yn Wrecsam ymhlith y cannoedd o dystion a ddisgrifiodd y "brwydrau" y bu'n rhaid iddyn nhw eu hwynebu wrth geisio cael atebolrwydd ac iawndal.

Bryn Alyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd camdriniaeth yng nghartref Bryn Alyn ger Wrecsam ymhlith yr achosion oedd yn rhan o'r ymchwiliad

Edrychodd IICSA i'r camau y mae'n rhaid i ddioddefwyr eu dilyn wrth geisio am iawndal yn erbyn awdurdodau lleol, grwpiau crefyddol, y lluoedd arfog a sefydliadau eraill.

Mae'r adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau yn dod i'r casgliad bod y broses yn gallu bod yn boenus i'r dioddefwyr, gyda rhai achosion yn rhygnu ymlaen am ddegawdau.

Daeth rhai i wybod bod eu hachosion wedi eu cymryd yn erbyn y diffynnydd anghywir.

Roedd eraill wedi profi eu hachosion yn llwyddiannus ar sail y ffeithiau ond yna wedi wynebu rhwystr cyfreithiol o ran cael iawndal gan fod gormod o amser wedi mynd heibio rhwng y gamdriniaeth a dechrau'r achos cyfreithiol.

Dywedodd rhai o'r goroeswyr na fyddai'r un swm ariannol yn gwneud yn iawn am yr hyn wnaethon nhw ei ddioddef.

Ond roedd eraill eisiau iawndal i gydnabod y gamdriniaeth a'r niwed a achoswyd o ran eu haddysg a'u gyrfaoedd.

Logo IICSAFfynhonnell y llun, IISCA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ymchwiliad hyd yma wedi casglu dros ddwy filiwn o dudalennau o dystiolaeth

Mae'r adroddiad yn nodi bod camau atebolrwydd yn gallu cynnwys:

  • cosbi'r troseddwr;

  • iawndal ariannol gan unigolyn neu sefydliad;

  • cydnabyddiaeth bod y gamdriniaeth wedi digwydd;

  • ymddiheuriad;

  • eglurhad sut y caniatawyd i'r gamdriniaeth ddigwydd;

  • sicrwydd na fyddai'r gamdriniaeth yn digwydd eto;

  • cwnsela a mathau eraill o gefnogaeth.

Mae'r adroddiad yn nodi saith argymhelliad gan gynnwys codau ymarfer newydd ar gyfer awdurdodau lleol a'r diwydiant yswiriant, a newid y gyfraith i'w gwneud hi'n haws i ddioddefwyr gael ymddiheuriadau a chynigion o driniaeth gan y sefydliadau oedd yn gyfrifol.

Mae hefyd yn dweud bod newid i'r gyfraith yn cael ei ystyried a fyddai'n gwneud hi'n haws i ddioddefwyr ddod ag achosion sifil mewn cysylltiad â throseddau rhyw hanesyddol.

Adroddiad IICSAFfynhonnell y llun, IICSA

Dywedodd cadeirydd yr ymchwiliad, Yr Athro Alexis Jay bod "y dioddefaint byth yn dod i ben" i unigolion sydd wedi dioddef a goroesi camdriniaeth rywiol yn eu plentyndod.

"Yn ein hymchwiliad, fe welson ni gall achosion am iawndal mewn llysoedd troseddol a sifil fod yn rhwystredig, gwrthwynebus a di-fudd yn y pen draw.

"Mae llawer yn profi trawma o'r newydd ac yn anfodlon eithriadol gyda'r camau cyfreithiol sydd yn aml yn hirhoedlog ac yn ddryslyd.

"Yr un mor ofidus yw'r diffyg cyfeirio clir i'r iawndal a chefnogaeth y gallai goroeswyr fod â hawl i'w cael.

"Mae'r panel a finnau'n gobeithio y bydd yr adroddiad yma a'i argymhellion yn gallu helpu gwneud ceisio iawndal yn broses lai cymhleth a phoenus i bobl eithriadol fregus."

Mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol a Chymdeithas Yswirwyr Prydeinig wedi cael cais am sylw.