Jeremy Corbyn a Mark Drakeford yn 'tynnu mlaen'
- Cyhoeddwyd
Mae Jeremy Corbyn wedi mynnu ei fod yn "tynnu 'mlaen yn iawn" gydag arweinydd Llafur Cymru, Mark Drakeford, gan ei ddisgrifio fel "ymwelydd derbyniol" i'r cabinet cysgodol.
Gwadodd Mr Corbyn bod hollt rhwng Llafur y DU a Llafur Cymru ar faterion fel Brexit ac ailddewis Aelodau Seneddol.
Fe wnaeth Mr Drakeford ysgrifennu at aelodau ei blaid yr wythnos hon i ddweud y bydd Llafur Cymru yn cefnogi aros yn yr UE mewn unrhyw refferendwm yn y dyfodol.
Dywedodd Mr Corbyn y bydd Llafur yn dewis beth bynnag fydd dewis y bobl mewn refferendwm Brexit os fydd mewn grym.
'Dewis go iawn'
Cydnabod polisi Llafur Cymru a wnaeth Mr Corbyn mewn cyfweliad gyda BBC Cymru ddydd Iau, ond dywedodd y byddai Llafur y DU yn "sicrhau bod dewis go iawn yn cael ei roi gerbron pobl Prydain".
Dywedodd y byddai llywodraeth Lafur yn aildrafod cytundeb Brexit gyda'r Undeb Ewropeaidd, cyn ei roi fel dewis mewn refferendwm gydag aros fel y dewis arall.
Gwrthododd ddweud pa un fyddai'n ei gefnogi.
Mae rhai aelodau amlwg o Lywodraeth Cymru wedi beirniadu'r polisi.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething y byddai Llafur yn "haeddu'r gwawd a gawn ni" os fydd disgwyl i ymgeiswyr ddweud y byddan nhw'n trafod cytundeb Brexit newydd ac yna ymgyrchu yn erbyn y cytundeb hwnnw mewn refferendwm.
Ddydd Mercher, mynnodd Mr Drakeford nad oedd ei lythyr at aelodau Llafur Cymru yn cefnogi aros wedi'i fwriadu fel her i Jeremy Corbyn.
Ond roedd yn feirniadol o gorff llywodraethol Llafur - yr NEC - am wrthod datganoli'r arfer o ailddewis ASau o Gymru i'r blaid yng Nghymru.
Dywedodd Mr Corbyn bod penderfyniad yr NEC "yn sicr ddim yn sen" i Mr Drakeford, ond fod "rhaid i'r rheolau'n ymwneud ag ailddewis ymgeiswyr fod yr un fath am y DU gyfan".
Bydd y cyfweliad llawn gyda Mr Corbyn yn cael ei ddarlledu ar Sunday Politics Wales ar BBC One Wales am 10:00 ar 22 Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2019
- Cyhoeddwyd4 Medi 2019
- Cyhoeddwyd21 Awst 2019