'Gall nos Lun ddim dod yn ddigon cyflym' i dîm Cymru
- Cyhoeddwyd
Gyda Chwpan Rygbi'r Byd yn Asia am y tro cynta' erioed roedd disgwyl yr annisgwyl, ond doedd neb wedi disgwyl i bethau ddechrau fel y gwnaethon nhw.
Heb os, mae helynt Rob Howley wedi taflu cwmwl dros garfan Cymru - ond o adfyd daw nerth, ac mae'r chwaraewyr eu hunain, yn enwedig y rhai mwya' profiadol, wedi cymryd cyfrifoldeb ac yn benderfynol o droi sefyllfa negyddol yn brofiad cadarnhaol.
Maen nhw eisoes wedi profi'r elfen bositif honno yn Kitakyushu, a rhaid canmol gwaith Undeb Rygbi Cymru yn braenaru'r tir fel bod cefnogaeth y gymuned leol wedi bod yn anhygoel o'r eiliad y cyrhaeddodd y garfan.
Mae pethau ychydig yn wahanol yn Toyota lle bydd Cymru'n chwarae'i gêm gyntaf yn erbyn Georgia ddydd Llun.
Ddoe cyrhaeddodd Cymru - dim ond heddiw mae baneri Cwpan y Byd wedi cyrraedd strydoedd dinas lle dros y dyddiau d'wetha' prin fod argoel bod un o brif gystadlaethau chwaraeon y byd yn digwydd.
Mae'n wahanol eto yn Tokyo - y brifddinas a phrif sylw Cwpan y Byd gyda'r seremoni agor a'r gêm gynta' rhwng Japan a Rwsia yn denu sylw'r wasg a'r cyfryngau o bedwar ban byd.
Unwaith bydd y gystadleuaeth wedi dechrau o ddifri', gobaith y trefnwyr a'r timau yw mai'r gemau eu hunain bydd yn denu'r sylw, nid unrhyw ddigwyddiadau ymylol.
Ac o ran Cymru gall nos Lun ddim dod yn ddigon cyflym iddyn nhw gael eu cyfle cynta' ar y cae ar ôl misoedd lawer o baratoi trylwyr.
Mae'u disgwyliadau nhw'u hunain yn fawr gyda'r bwriad o orffen ar nodyn uchel, ond pwy ŵyr pa dro annisgwyl sydd o'u blaenau dros y chwe wythnos nesa cyn bod rhywun yn codi tlws Webb Ellis yn Yokohama.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Medi 2019
- Cyhoeddwyd19 Medi 2019
- Cyhoeddwyd18 Medi 2019