Canfod newid hinsawdd sy'n ymestyn 800 mlynedd trwy goed
- Cyhoeddwyd
Mae astudio cylchoedd tyfiant hen goed derw wedi caniatáu i wyddonwyr gynhyrchu un o'r cofnodion mwyaf manwl eto o sut mae hinsawdd y Deyrnas Unedig wedi newid dros y mileniwm diwethaf.
Mae'n datgelu pa mor wlyb neu sych oedd hafau ym Mhrydain ac yn ymestyn yn ôl dros 800 mlynedd.
Roedd cyfnodau hir o dywydd eithafol yn cydredeg ag adroddiadau hanesyddol o newyn a sychder.
Dywedodd yr ymchwilwyr fod y data yn cyflwyno "gwersi enfawr" am effeithiau posib newid yn yr hinsawdd ar gymdeithas.
Cymerwyd samplau craidd o gannoedd o goed derw ledled y wlad, mewn prosiect dan arweiniad Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol Abertawe.
Mae'r coed yn tyfu cylch newydd bob blwyddyn ac yn arbennig o sensitif i ba mor wlyb y mae wedi bod yn ystod misoedd yr haf.
Astudiwyd lled y cylchoedd tyfiant, yn ogystal â chemeg y pren.
Mae'r ymchwilwyr yn dweud eu bod wedi cael mynediad i archif naturiol o wybodaeth am yr hinsawdd, gan fynd ymhell y tu hwnt i'r cofnodion sydd gan y Swyddfa Dywydd - sydd ddim ond yn cynnwys ychydig gannoedd o flynyddoedd.
Roedd yr ymchwil hefyd yn cefnogi canfyddiadau'r Swyddfa Dywydd bod hafau Prydain wedi dod 13% yn fwy gwlyb ers y ganrif ddiwethaf.
"Mae angen y llun hir dymor hwnnw arnom i ddeall pa mor anarferol yw hynny, ac i geisio darganfod beth allai ddigwydd i'n hinsawdd yn y dyfodol," esboniodd yr Athro Mary Gagen o Grŵp Ymchwil Cylchoedd Coed Prifysgol Abertawe.
"Yn hollbwysig bu adegau yn y gorffennol pan mae ein hinsawdd wedi dirywio a chafwyd effaith enfawr ar ein cymdeithas."
Enghraifft drawiadol yw'r data a gasglwyd o ganol y 1200au i ddechrau'r 1300au, gyda'r cylchoedd coed derw yn dangos cyfnod hir o lawiad uwch na'r cyffredin am ddegawdau lawer.
'Disgwyl cyfnod anodd'
Mae'n cyd-fynd ag amser o newynau mawr, gan gynnwys yr hyn a elwir yn anomaledd Dante, pan arweiniodd blynyddoedd o hafau gwlyb, oer at fethiannau cnwd.
Roedd yna adroddiadau bod 20% o boblogaeth Ewrop wedi marw hefyd.
"Yn y gorffennol digwyddodd newid yn yr hinsawdd oherwydd newidiadau naturiol. Nawr ac yn y dyfodol, mae'n digwydd yn gynt, gyda mwy o eithafion a ni sy'n gyfrifol," rhybuddiodd yr Athro Gagen.
"Wrth i'n system hinsawdd ymateb i nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer, mae pob dim sy'n eithafol yn mynd yn fwy eithafol. Felly gallwn ni ddisgwyl...mwy o sychder, gwres mawr, ond hefyd mwy o oerni a mwy o adegau lle mae'n wirioneddol wlyb.
"Mae gennym ni fwy o reolaeth dros ein cymdeithasau nawr nag yn y gorffennol. Ond gallwn ni ddisgwyl i fywyd fynd yn anodd iawn, ac yn arbennig i gymunedau bregus yn fyd eang yn y de."
Defnyddiodd Athrawon Prosiect Derw'r DU, Danny McCarroll a Neil Loader, ganfyddiadau'r prosiect i adeiladu jig-so enfawr, naw metr o hyd, er mwyn cyflwyno'r data mewn ffordd weledol a dechrau sgyrsiau gyda'r cyhoedd am y newid i hinsawdd y DU.
Disgwylir iddo gael ei arddangos yn Amgueddfa Glannau Abertawe yn yr hydref.
Mae'r ymchwil hefyd wedi arwain at ddatblygiad ffordd newydd arloesol o nodi'r flwyddyn yr adeiladwyd adeiladau hanesyddol.
Yn ogystal â choed byw, cymerwyd samplau ar gyfer y prosiect o bren derw hynafol.
Fe wnaeth y tîm ddarganfod y gallen nhw ddadansoddi isotopau sefydlog ocsigen yn y coed, a fyddai wedi ffurfio o'r glaw a ddisgynnodd ar y coed wrth iddyn nhw dyfu, i gyd-fynd â'r patrymau mewn gwahanol brennau.
Ar gyfer ei phrosiect traethawd israddedig, mae Bethan Roberts, myfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe, yn ceisio dyddio'r Ysgubor Degwm rhestredig Gradd II yn y Fenni, Sir Fynwy, gan ddefnyddio samplau o'r trawstiau derw yn y nenfwd.
"Mae'n gyffrous iawn bod yn rhan o'r ymchwil hon ar yr adeg hon," meddai.
"Bydd deall cyflwr yr hinsawdd yn y gorffennol yn dangos i ni beth allai ddigwydd yn y dyfodol hefyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2019