Cymru v Georgia: 'Nid damwain' yw enwi carfan brofiadol
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru'n paratoi i wynebu Georgia yn ei gêm agoriadol yng Nghwpan Rygbi'r Byd ddydd Llun yn Japan.
Mae Warren Gatland wedi enwi ei dîm hynaf erioed yn y gystadleuaeth ac yn ôl y prif hyfforddwr "nid yw'n ddamweiniol".
Cyfartaledd oedran y tîm fydd yn dechrau'r gêm fydd 28 blwyddyn a 331 diwrnod oed.
Mae hyfforddwr amddiffyn Cymru, Shaun Edwards yn credu gallai profiad Cymru o fewn y garfan eu helpu i efelychu camp Lloegr yn 2003 ac ennill y gystadleuaeth.
'Profiad'
"Rydym wedi bod yn paratoi ar gyfer y cyfnod yma ers amser maith," meddai Edwards.
"Rydym yn canolbwyntio ar ddydd Llun ac ar ein gwrthwynebwyr dygn, ac mae gennym ni barch mawr tuag atyn nhw,
"Mi fydd yn ornest gorfforol, ond rydym yma i gystadlu."
Bydd capten Cymru, Alun Wyn Jones yn ennill cap rhif 129 fydd yn dod ag ef yn gyfartal â record Gethin Jenkins, pan fydd yn arwain Cymru allan yn Toyota.
Daeth cyhoeddiad bydd y blaenasgellwr Aaron Wainwright yn dechrau yn lle Ross Moriarty a Josh Navidi fydd yn safle'r wythwr gyda Justin Tipuric hefyd yn chwarae yn y rheng ôl.
Wrth drafod gobeithion Cymru, ychwanegodd Edwards: "Ni yw'r tîm mwyaf profiadol. Fe glywais mai dyma'r garfan fwyaf profiadol erioed i chwarae mewn cystadleuaeth Cwpan y Byd.
"Edrychwn yn ôl ar 2003 ac ar berfformiad Lloegr - yr unig wlad o hemisffer y gogledd i ennill Cwpan y Byd.
"Roedd ganddyn nhw dîm profiadol, chwaraewyr dros eu 30. Dwi'm yn credu bod hynny'n beth drwg."
'Cryfder'
Cyn y gêm yn erbyn Georgia dywedodd Warren Gatland fod y tîm yn ymwybodol o gryfder y gwrthwynebwyr yn y sgrym.
"Mae'n rhaid i ni fod yn alluog yn y sgrym. Rydym wedi bod yn hapus gyda sut mae Alun Wyn wedi bod yn ymarfer yn y sgrym ac mae'n un o'i gryfderau.
"Mae'n rhywbeth rydym wedi bod yn canolbwyntio arno drwy'r wythnos," meddai.
Gallwch ddilyn gêm Cymru yn erbyn Georgia ar lif byw arbennig Cymru Fyw, gyda'r gyda'r gic gyntaf am 11:15 fore Llun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2019
- Cyhoeddwyd17 Medi 2019